Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 2:1-45

Daniel 2:1-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad, breuddwydiodd Nebuchadnesar; yr oedd ei feddwl yn gynhyrfus ac ni allai gysgu, a pharodd y brenin iddynt alw'r dewiniaid a'r swynwyr a'r hudolwyr a'r Caldeaid i esbonio'r hyn yr oedd wedi ei freuddwydio. Pan ddaethant o flaen y brenin, dywedodd wrthynt, “Cefais freuddwyd, ac yr wyf yn poeni ynghylch ei hystyr.” Atebodd y Caldeaid mewn Aramaeg, “O frenin, bydd fyw byth! Adrodd dy freuddwyd wrth dy weision, a rhown iti'r dehongliad.” Atebodd y brenin, “Dyma fy mhenderfyniad: os na fynegwch i mi'r freuddwyd a'i dehongliad, cewch eich rhwygo'n ddarnau, a chwelir eich tai. Ond os mynegwch y freuddwyd a'i dehongliad, cewch anrhegion a chyfoeth ac anrhydedd mawr gennyf fi. Felly mynegwch imi'r freuddwyd a'i dehongliad.” Dywedasant yr ail waith, “Adrodded y brenin y freuddwyd wrth ei weision; yna rhoddwn ninnau ei dehongliad.” Atebodd y brenin, “Y mae'n amlwg eich bod yn oedi'n fwriadol, am ichwi sylweddoli fy mhenderfyniad; un ddedfryd yn unig sy'n eich aros os na fynegwch y freuddwyd imi. Yr ydych wedi cytuno â'ch gilydd i ddweud celwydd i'm camarwain hyd nes y daw tro ar fyd. Dywedwch wrthyf beth oedd y freuddwyd, a chaf wybod y medrwch ei dehongli.” Atebodd y Caldeaid, “Nid oes neb ar wyneb daear a all fynegi'r hyn y mae'r brenin yn ei ofyn, oherwydd nid yw'r un brenin o fri ac awdurdod wedi gofyn cwestiwn fel hwn i ddewin na swynwr na Chaldead. Y mae'r brenin wedi gofyn cwestiwn dyrys na all neb ei ateb ond y duwiau, nad ydynt yn byw ym myd y cnawd.” Yna llidiodd y brenin a chynddeiriogi, a gorchymyn difa holl ddoethion Babilon. Cyhoeddwyd dedfryd fod y doethion i'w lladd; a chwiliwyd am Daniel a'i gyfeillion, i'w lladd hwythau. Ymresymodd Daniel yn ddoeth a phwyllog ag Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, pan ddaeth i ladd y doethion. Dywedodd wrtho, “Ti, gennad y brenin, pam y mae dedfryd y brenin mor chwyrn?” Eglurodd Arioch y cyfan i Daniel, ac aeth Daniel at y brenin a gofyn am amser, iddo gael cyfle i fynegi'r dehongliad iddo. Yna aeth Daniel i'w dŷ ac adrodd yr hanes wrth ei gyfeillion, Hananeia, Misael ac Asareia, a'u hannog hwy i erfyn am drugaredd gan Dduw'r nefoedd ynglŷn â'r dirgelwch hwn, rhag i Daniel a'i gyfeillion gael eu difa gyda'r gweddill o ddoethion Babilon. Datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos. Bendithiodd Daniel Dduw'r nefoedd, a dyma'i eiriau: “Bendigedig fyddo enw Duw yn oes oesoedd; eiddo ef yw doethineb a nerth. Ef sy'n newid amserau a thymhorau, yn diorseddu brenhinoedd a'u hadfer, yn rhoi doethineb i'r doeth a gwybodaeth i'r deallus. Ef sy'n datguddio pethau dwfn a chuddiedig, yn gwybod yr hyn sydd yn dywyll; gydag ef y trig goleuni. Diolchaf a rhof fawl i ti, O Dduw fy hynafiaid, am i ti roi doethineb a nerth i mi. Dangosaist i mi yn awr yr hyn a ofynnwyd gennym, a rhoi gwybod inni beth sy'n poeni'r brenin.” Yna aeth Daniel at Arioch, a benodwyd gan y brenin i ladd doethion Babilon, a dweud wrtho, “Paid â difa doethion Babilon. Dos â fi at y brenin, a mynegaf y dehongliad iddo.” Brysiodd Arioch i fynd â Daniel at y brenin, a dweud wrtho, “Cefais ddyn ymhlith alltudion Jwda a all roi'r dehongliad i'r brenin.” Meddai'r brenin wrth Daniel, a alwyd yn Beltesassar, “A fedri di ddweud wrthyf beth oedd y freuddwyd a welais, a'i dehongli?” Atebodd Daniel, “Nid oes doethion na swynwyr na dewiniaid na brudwyr a fedr ddehongli i'r brenin y dirgelwch y mae'n holi yn ei gylch; ond y mae Duw yn y nefoedd sy'n datguddio dirgelion, ac ef sy'n dangos i'r Brenin Nebuchadnesar beth a ddigwydd yn y dyfodol. Dyma'r freuddwyd a'r gweledigaethau a gefaist yn dy wely: Meddwl am y dyfodol yr oeddit ti, O frenin, yn dy wely; a mynegodd datguddiwr dirgelion iti beth sydd i ddod. Ond rhoddwyd datguddiad o'r dirgelwch i mi, nid am fy mod yn ddoethach na neb arall, ond er mwyn mynegi'r dehongliad i'r brenin, a pheri iti ddeall dy feddyliau. O frenin, delw fawr a welaist yn y weledigaeth, ac yr oedd yn sefyll o'th flaen yn fawr ac yn llachar, a'i golwg yn codi arswyd. Yr oedd pen y ddelw yn aur coeth, ei bron a'i breichiau'n arian, ei bol a'i chluniau'n bres, ei choesau'n haearn, a'i thraed yn gymysgedd o haearn a chlai. Tra oeddit yn edrych, naddwyd carreg heb gymorth llaw; trawodd hon y ddelw yn ei thraed o haearn a chlai, a'u malurio. Yna drylliwyd yr haearn, y clai, y pres, yr arian a'r aur gyda'i gilydd, nes eu bod fel us llawr dyrnu yn yr haf. Chwythodd y gwynt hwy i ffwrdd, ac nid oedd golwg ohonynt. Ond tyfodd y garreg a faluriodd y ddelw yn fynydd mawr, a llenwi'r holl ddaear. “Dyna'r freuddwyd, ac yn awr fe rown y dehongliad i'r brenin. Yr wyt ti, O frenin, yn frenin y brenhinoedd; rhoddodd Duw'r nefoedd i ti frenhiniaeth, awdurdod, nerth a gogoniant, a'th ethol i lywodraethu ar bobl ac anifeiliaid y maes ac adar yr awyr ple bynnag y bônt. Ti yw'r pen aur. Ar dy ôl daw brenhiniaeth arall, wannach na thi. Yna trydedd frenhiniaeth, un o bres, yn teyrnasu dros yr holl ddaear. Wedyn pedwaredd frenhiniaeth, a fydd cyn gryfed â haearn. Ac fel y mae haearn yn malurio ac yn dryllio popeth, bydd hithau'n malurio ac yn dryllio'r rhain i gyd. Fel y gwelaist y traed a'r bysedd yn gymysgedd o glai crochenydd a haearn, felly bydd brenhiniaeth ranedig; bydd peth ohoni'n gryf fel haearn, yn union fel y gwelaist yr haearn yn gymysg â'r pridd cleiog. Ac fel yr oedd bysedd y traed yn gymysg o haearn ac o glai, felly y bydd rhan o'r frenhiniaeth yn gryf a rhan yn wan. Fel y gwelaist yr haearn yn gymysg â'r pridd cleiog, felly y byddant hwy'n priodi trwy'i gilydd; ond ni lŷn y naill wrth y llall, fel nad yw haearn a phridd yn glynu. Yn nyddiau'r brenhinoedd hynny bydd Duw'r nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth, brenhiniaeth na chaiff ei gadael i eraill. Bydd hon yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill, ond bydd hi ei hun yn para am byth, fel y garreg a welaist yn cael ei naddu o'r mynydd heb gymorth llaw ac yn malurio'r haearn, y pres, y clai, yr arian, a'r aur. Dangosodd y Duw mawr i'r brenin beth sydd i ddigwydd ar ôl hyn. Y mae'r freuddwyd yn ddilys, a'i dehongliad yn sicr.”

Daniel 2:1-45 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn ystod yr ail flwyddyn pan oedd Nebwchadnesar yn frenin cafodd freuddwyd oedd yn ei boeni gymaint roedd yn colli cwsg am y peth. Dyma fe’n galw’r swynwyr, y dewiniaid, y consurwyr a’r dynion doeth at ei gilydd i esbonio’r freuddwyd iddo. Dyma nhw’n dod a sefyll o flaen y brenin. A dyma’r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi cael breuddwyd, a dw i eisiau gwybod beth ydy’r ystyr.” A dyma’r dynion doeth yn ateb [yn Aramaeg], “O frenin! Boed i chi fyw am byth! Dwedwch beth oedd y freuddwyd wrth eich gweision, a gwnawn ni ddweud beth mae’n ei olygu.” “Na,” meddai’r brenin, “dim o gwbl. Dw i wedi penderfynu fod rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae’n ei olygu. Os na wnewch chi bydd eich cyrff chi’n cael eu rhwygo’n ddarnau, a’ch cartrefi’n cael eu troi’n domen sbwriel! Ond os gallwch chi ddweud wrtho i beth oedd y freuddwyd ges i, a beth mae’n ei olygu, bydda i’n pentyrru anrhegion, gwobrau ac anrhydeddau arnoch chi. Felly dwedwch beth oedd y freuddwyd, a beth mae’n ei olygu!” Ond dyma nhw’n dweud eto, “Os bydd y brenin mor garedig â dweud wrthon ni beth oedd y freuddwyd, gwnawn ni ddweud wrtho beth mae’n ei olygu.” “Dw i’n deall eich gêm chi,” meddai’r brenin. “Dych chi’n gweld mor benderfynol ydw i a dych chi’n chwarae am amser. Os wnewch chi ddim dweud wrtho i beth oedd y freuddwyd bydd hi ar ben arnoch chi. Dych chi’n mynd i wneud rhyw esgusion a hel straeon celwyddog yn y gobaith y bydd y sefyllfa’n newid. Felly dwedwch wrtho i beth oedd y freuddwyd. Bydd hi’n amlwg i mi wedyn eich bod chi yn gallu esbonio’r ystyr.” A dyma’r dynion doeth yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear allai wneud beth mae’r brenin yn ei ofyn. A does yna erioed frenin (sdim ots pa mor bwerus oedd e) wedi gofyn y fath beth i’w ddewiniaid, ei swynwyr neu ei ddynion doeth. Mae’r brenin yn gofyn am rywbeth sy’n amhosib! Dim ond y duwiau sy’n gwybod yr ateb – a dŷn nhw ddim yma gyda ni!” Pan glywodd hynny, dyma’r brenin yn gwylltio’n lân, a gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu lladd. Roedd y gorchymyn ar fin cael ei weithredu, ac roedd Daniel a’i ffrindiau’n mynd i gael eu dienyddio hefyd. Ond dyma Daniel yn cael gair yng nghlust Arioch, capten gwarchodlu’r brenin, oedd wedi mynd allan i ddienyddio’r dynion doeth i gyd. Gofynnodd i Arioch, “Capten, pam mae’r brenin wedi rhoi gorchymyn mor galed?” A dyma Arioch yn dweud beth oedd wedi digwydd. Felly dyma Daniel yn gofyn i’r brenin roi ychydig amser iddo, a byddai’n esbonio iddo beth oedd ystyr y freuddwyd. Wedyn aeth Daniel adre, a dweud wrth ei ffrindiau Hananeia, Mishael ac Asareia am y peth. Gofynnodd iddyn nhw weddïo y byddai Duw’r nefoedd yn drugarog, ac yn dweud wrthyn nhw beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd. Wedyn fydden nhw ddim yn cael eu dienyddio gyda gweddill dynion doeth Babilon. Y noson honno dyma Daniel yn cael yr ateb i’r dirgelwch, mewn gweledigaeth yn ystod y nos. A dyma fe’n moli Duw’r nefoedd, a dweud, “Boed i enw Duw gael ei foli am byth! Mae e’n Dduw doeth a chryf. Fe sy’n rheoli amser ac yn arwain hanes. Fe sy’n codi brenhinoedd ac yn eu diorseddu nhw. Fe sy’n rhoi doethineb i’r doeth, a gwybodaeth i bobl ddeallus. Mae e’n datguddio pethau sy’n ddirgelwch llwyr. Mae e’n gweld beth sy’n y tywyllwch; mae golau o’i gwmpas e bob amser. Dw i’n dy foli di! Clod i ti! O Dduw fy hynafiaid. Rwyt ti wedi rhoi doethineb a nerth i mi. Ti wedi dangos beth roedden ni angen ei wybod, a rhoi i mi’r ateb i gwestiwn y brenin.” Felly dyma Daniel yn mynd at Arioch, oedd wedi cael y gwaith o ladd dynion doeth Babilon i gyd. Dwedodd wrtho, “Paid lladd dynion doeth Babilon. Dos â fi i weld y brenin. Gwna i ddweud wrtho beth ydy ystyr y freuddwyd.” Felly’n syth bin dyma Arioch yn mynd â Daniel i weld y brenin, a dweud wrtho, “Dw i wedi dod o hyd i ddyn, un o gaethion Jwda, sy’n gallu dweud wrth y brenin beth ydy ystyr ei freuddwyd!” Dyma’r brenin yn gofyn i Daniel (oedd yn cael ei alw yn Belteshasar), “Ydy hyn yn wir? Wyt ti’n gallu dweud beth oedd y freuddwyd, a dweud wrtho i beth mae’n ei olygu?” Dyma Daniel yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear – dynion doeth, swynwyr, dewiniaid na chonsurwyr – yn gallu datrys y dirgelwch yma i’r brenin. Ond mae yna Dduw yn y nefoedd sy’n gallu dangos ystyr pob dirgelwch. Mae’r Duw yma wedi dangos i Nebwchadnesar beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol. “Dyma beth welsoch chi’n eich breuddwyd: Tra oedd y brenin yn cysgu yn ei wely cafodd freuddwyd am bethau yn y dyfodol. Dangosodd yr Un sy’n datrys pob dirgelwch bethau sy’n mynd i ddigwydd. Dw i ddim wedi cael yr ateb i’r dirgelwch am fy mod i’n fwy doeth na phawb arall, ond am fod Duw eisiau i’r brenin ddeall y freuddwyd gafodd e. “Eich mawrhydi, beth welsoch chi oedd cerflun anferth – roedd yn aruthrol fawr ac yn disgleirio’n llachar. Roedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un. Roedd pen y cerflun wedi’i wneud o aur, ei frest a’i freichiau yn arian, ei fol a’i gluniau yn bres, ei goesau yn haearn, a’i draed yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith. Tra oeddech chi’n edrych arno dyma garreg yn cael ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig. Dyma’r garreg yn taro’r cerflun ar ei draed, ac yn eu malu nhw’n ddarnau. A dyma’r cerflun anferth yn syrthio’n ddarnau – yr haearn, crochenwaith, pres, arian ac aur. Roedd y cwbl yn ddarnau mân, fel us ar lawr dyrnu. A chafodd y cwbl ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Doedd dim sôn amdano. Ond wedyn dyma’r garreg wnaeth daro’r cerflun yn troi yn fynydd enfawr oedd i’w weld yn amlwg drwy’r byd i gyd. “Dyna oedd y freuddwyd. A nawr, fe esbonia i beth ydy ystyr y cwbl i’r brenin: Eich mawrhydi, dych chi’n frenin ar frenhinoedd lawer. Mae Duw’r nefoedd wedi rhoi awdurdod, pŵer, grym ac anrhydedd i chi. Dych chi’n teyrnasu ar y byd i gyd – ble bynnag mae pobl, anifeiliaid gwyllt ac adar yn byw. Chi ydy’r pen o aur. Ond bydd teyrnas arall yn dod ar eich ôl chi; fydd hi ddim mor fawr â’ch ymerodraeth chi. Ar ôl hynny, bydd trydedd teyrnas yn codi i reoli’r byd i gyd – dyma’r un o bres. Wedyn bydd y bedwaredd deyrnas yn codi. Bydd hon yn gryf fel haearn. Yn union fel mae haearn yn malu popeth mae’n ei daro, bydd y deyrnas yma yn dinistrio a sathru popeth aeth o’i blaen. Ac wedyn y traed a’r bodiau welsoch chi (oedd yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith) – bydd hon yn deyrnas ranedig. Bydd ganddi beth o gryfder yr haearn ynddi, ond haearn wedi’i gymysgu â chrochenwaith ydy e. Cymysgedd o gryfder yr haearn a breuder y crochenwaith. Mae’r cymysgedd hefyd yn dangos y bydd pobloedd yn cymysgu drwy briodas, ond ddim yn aros gyda’i gilydd – yn union fel haearn a chrochenwaith, sydd ddim yn cymysgu gyda’i gilydd. “Yn amser y brenhinoedd yna bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio. Fydd y deyrnas yma byth yn cael ei choncro a’i chymryd drosodd gan bobl eraill. Bydd yn chwalu’r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth. Dyna ystyr y garreg gafodd ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig, a malu’r cwbl yn ddarnau – yr haearn, y pres, y crochenwaith, yr arian a’r aur. Mae’r Duw mawr wedi dangos i’r brenin beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Dyna oedd y freuddwyd, ac mae’r esboniad yn gywir hefyd.”

Daniel 2:1-45 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nebuchodonosor, y breuddwydiodd Nebuchodonosor freuddwydion, a thrallodwyd ei ysbryd ef, a’i gwsg a dorrodd oddi wrtho. A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i’r brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin. A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Breuddwydiais freuddwyd, a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd. Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg, O frenin, bydd fyw yn dragywydd: adrodd dy freuddwyd i’th weision, a mynegwn y dehongliad. Atebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid, Aeth y peth oddi wrthyf: oni fynegwch y breuddwyd i mi, a’i ddehongliad, gwneir chwi yn ddrylliau, a’ch tai a osodir yn domen. Ond os y breuddwyd a’i ddehongliad a ddangoswch, cewch roddion, a gwobrau, ac anrhydedd mawr o’m blaen i: am hynny dangoswch y breuddwyd, a’i ddehongliad. Atebasant eilwaith a dywedasant, Dyweded y brenin y breuddwyd i’w weision, ac ni a ddangoswn ei ddehongliad ef. Atebodd y brenin a dywedodd, Mi a wn yn hysbys mai oedi yr amser yr ydych chwi; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthyf. Ond oni wnewch i mi wybod y breuddwyd, un gyfraith fydd i chwi: canys gair celwyddog a llygredig a ddarparasoch ei ddywedyd o’m blaen, nes newid yr amser: am hynny dywedwch i mi y breuddwyd, a mi a gaf wybod y medrwch ddangos i mi ei ddehongliad ef. Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth â hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead. Canys dieithr yw y peth a gais y brenin, ac nid oes neb arall a fedr ei ddangos o flaen y brenin, ond y duwiau, y rhai nid yw eu trigfa gyda chnawd. O achos hyn y digiodd y brenin ac y creulonodd yn ddirfawr, ac a orchmynnodd ddifetha holl ddoethion Babilon. Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion; ceisiasant hefyd Daniel a’i gyfeillion i’w lladd. Yna yr atebodd Daniel trwy gyngor a doethineb i Arioch, pen-distain y brenin, yr hwn a aethai allan i ladd doethion Babilon: Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch, distain y brenin, Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel. Yna Daniel a aeth i mewn, ac a ymbiliodd â’r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad i’r brenin. Yna yr aeth Daniel i’w dŷ, ac a fynegodd y peth i’w gyfeillion, Hananeia, Misael, ac Asareia; Fel y ceisient drugareddau gan DDUW y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn; fel na ddifethid Daniel a’i gyfeillion gyda’r rhan arall o ddoethion Babilon. Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos: yna Daniel a fendithiodd DDUW y nefoedd. Atebodd Daniel a dywedodd, Bendigedig fyddo enw DUW o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef: Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i’r doethion, a gwybodaeth i’r rhai a fedrant ddeall: Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig: efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch, a chydag ef y mae y goleuni yn trigo. Tydi DDUW fy nhadau yr ydwyf fi yn diolch iddo, ac yn ei foliannu, oherwydd rhoddi ohonot ddoethineb a nerth i mi, a pheri i mi wybod yn awr yr hyn a geisiasom gennyt: canys gwnaethost i ni wybod yr hyn a ofynnodd y brenin. Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin, a mi a ddangosaf i’r brenin y dehongliad. Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda, yr hwn a fynega i’r brenin y dehongliad. Atebodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar, A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais, a’i ddehongliad? Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos i’r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn: Ond y mae DUW yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i’r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma: Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn: a’r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd. Minnau hefyd, nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw, y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn: ond o’u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i’r brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon. Ti, frenin, oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr: y ddelw fawr hon, yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol, oedd yn sefyll gyferbyn â thi; a’r olwg arni ydoedd ofnadwy. Pen y ddelw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron a’i breichiau o arian, ei bol a’i morddwydydd o bres, Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd. Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd, ac a’u maluriodd hwynt. Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a’r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt fel mân us yn dyfod o’r lloriau dyrnu haf; a’r gwynt a’u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a’r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear. Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin. Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys DUW y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant. A pha le bynnag y preswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a’th osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw y pen aur hwnnw. Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear. Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haearn: canys yr haearn a ddryllia, ac a ddofa bob peth: ac fel haearn, yr hwn a ddryllia bob peth, y maluria ac y dryllia hi. A lle y gwelaist y traed a’r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd. Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haearn, a pheth o bridd; felly y bydd y frenhiniaeth, o ran yn gref, ac o ran yn frau. A lle y gwelaist haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd, ymgymysgant â had dyn; ond ni lynant y naill wrth y llall, megis nad ymgymysga haearn â phridd. Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd DUW y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a’r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd. Lle y gwelaist dorri carreg o’r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, a’r aur; hysbysodd y DUW mawr i’r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a’i ddehongliad yn ffyddlon.