Daniel 10:12-14
Daniel 10:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd wrthyf, “Paid ag ofni, Daniel, oherwydd o'r dydd cyntaf y penderfynaist geisio deall ac ymostwng o flaen dy Dduw, clywyd dy eiriau; ac oherwydd hynny y deuthum i. Am un diwrnod ar hugain bu tywysog teyrnas Persia yn sefyll yn f'erbyn; yna daeth Mihangel, un o'r prif dywysogion, i'm helpu, pan adawyd fi yno gyda thywysog brenhinoedd Persia. Deuthum i roi gwybod i ti beth a ddigwydd i'th bobl yn niwedd y dyddiau, oherwydd gweledigaeth am y dyfodol yw hon hefyd.”
Daniel 10:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dwedodd, “Daniel, paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed dy weddi ers y diwrnod cyntaf i ti blygu o’i flaen i geisio deall. A dw i wedi dod o achos dy weddi. Ces fy nal yn ôl am dair wythnos gan arweinydd teyrnas Persia. Ond yna dyma Michael, un o’r prif arweinwyr, yn dod i’m helpu pan oeddwn i’n sefyll yn erbyn brenhinoedd Persia ar fy mhen fy hun. Ond dw i yma nawr, i dy helpu di i ddeall beth sy’n mynd i ddigwydd i dy bobl yn y dyfodol. Gweledigaeth am y dyfodol ydy hi.”
Daniel 10:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna efe a ddywedodd wrthyf, Nac ofna, Daniel: oherwydd er y dydd cyntaf y rhoddaist dy galon i ddeall, ac i ymgystuddio gerbron dy DDUW, y gwrandawyd dy eiriau; ac oherwydd dy eiriau di y deuthum i. Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele Michael, un o’r tywysogion pennaf, a ddaeth i’m cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia. A mi a ddeuthum i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd i’th bobl yn y dyddiau diwethaf: oherwydd y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer.