Colosiaid 4:1-6
Colosiaid 4:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhaid i chi’r meistri fod yn gyfiawn ac yn deg wrth drin eich caethweision. Cofiwch fod gynnoch chithau Feistr yn y nefoedd! Daliwch ati i weddïo drwy’r adeg, gan gadw’ch meddyliau yn effro a bod yn ddiolchgar. A gweddïwch droson ni hefyd, y bydd Duw yn rhoi cyfle i ni rannu’r neges am y Meseia, ac esbonio’r dirgelwch amdano. Dyma pam dw i yn y carchar. Gweddïwch y bydda i’n gwneud y neges yn gwbl glir, fel y dylwn i. Byddwch yn ddoeth yn y ffordd dych chi’n ymddwyn tuag at bobl sydd ddim yn credu. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i rannu gyda nhw. Byddwch yn serchog wrth siarad â nhw a pheidio bod yn ddiflas. A gwnewch eich gorau i ateb cwestiynau pawb yn y ffordd iawn.
Colosiaid 4:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwi feistri, rhowch i'ch caethweision yr hyn sy'n gyfiawn a theg, gan wybod fod gennych chwithau hefyd Feistr yn y nef. Parhewch i weddïo yn ddyfal, yn effro, ac yn ddiolchgar. Gweddïwch yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor inni ddrws i'r gair, inni gael traethu dirgelwch Crist, y dirgelwch yr wyf yn garcharor er ei fwyn. Gweddïwch ar i mi ei amlygu, fel y mae'n ddyletswydd arnaf lefaru. Byddwch yn ddoeth eich ymddygiad tuag at y rhai sydd y tu allan; daliwch ar eich cyfle. Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, ichwi fedru ateb pob un fel y dylid.
Colosiaid 4:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y meistriaid, gwnewch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd. Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch; Gan weddïo hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau: Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu. Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu’r amser. Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn.