Colosiaid 3:22-25
Colosiaid 3:22-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhaid i chi sy’n gaethweision fod yn ufudd i’ch meistri bob amser. Peidiwch gwneud hynny dim ond pan maen nhw’n eich gwylio chi, er mwyn ceisio ennill eu ffafr nhw. Byddwch yn ddidwyll wrth ufuddhau iddyn nhw, am eich bod chi’n parchu’r Arglwydd. Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi’n gweithio i’r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol. Byddwch chi’n derbyn etifeddiaeth yn wobr gan yr Arglwydd. Y Meseia ydy’r meistr dych chi’n ei wasanaethu go iawn. Bydd y rhai sy’n gwneud beth sydd o’i le yn cael beth maen nhw’n ei haeddu – does gan Dduw ddim ffefrynnau.
Colosiaid 3:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwi gaethweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistri daearol, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond mewn unplygrwydd calon yn ofn yr Arglwydd. Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â'ch holl galon, fel i'r Arglwydd, ac nid i neb arall. Gwyddoch mai oddi wrth yr Arglwydd y byddwch yn derbyn yr etifeddiaeth yn wobr. Gwasanaethwch Grist, eich Meistr chwi. Oherwydd y sawl sy'n gwneud cam fydd yn derbyn y cam yn ôl; nid oes ffafriaeth.
Colosiaid 3:22-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw: A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o’r galon, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion; Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.