Colosiaid 3:15-16
Colosiaid 3:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gadewch i’r heddwch mae’r Meseia’n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi’ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti’r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar. Gadewch i’r neges wych am y Meseia fyw ynoch chi, a’ch gwneud chi’n ddoeth wrth i chi ddysgu a rhybuddio’ch gilydd. Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw.
Colosiaid 3:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar. Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.
Colosiaid 3:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd.