Colosiaid 3:13-17
Colosiaid 3:13-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi. A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd – mae cariad yn clymu’r cwbl yn berffaith gyda’i gilydd. Gadewch i’r heddwch mae’r Meseia’n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi’ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti’r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar. Gadewch i’r neges wych am y Meseia fyw ynoch chi, a’ch gwneud chi’n ddoeth wrth i chi ddysgu a rhybuddio’ch gilydd. Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw. Gwnewch bopeth gan gofio eich bod yn cynrychioli yr Arglwydd Iesu Grist – ie, popeth! – popeth dych chi’n ei ddweud a’i wneud. Dyna sut dych chi’n dangos eich diolch i Dduw.
Colosiaid 3:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau. Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd. Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar. Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol. Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.
Colosiaid 3:13-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan gyd-ddwyn â’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd. A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef.