Colosiaid 3:1-4
Colosiaid 3:1-4 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly, am eich bod wedi cael eich codi i fywyd newydd gyda’r Meseia, ceisiwch beth sy’n y nefoedd, lle mae’r Meseia yn eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Edrychwch ar bethau o safbwynt y nefoedd, dim o safbwynt daearol. Buoch farw, ac mae’r bywyd go iawn sydd gynnoch chi nawr wedi’i guddio’n saff gyda’r Meseia yn Nuw. Y Meseia ydy’ch bywyd chi. Pan fydd e’n dod i’r golwg, byddwch chi hefyd yn cael rhannu ei ysblander e.
Colosiaid 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, os cyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear. Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant.
Colosiaid 3:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear. Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant.