Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Colosiaid 3:1-25

Colosiaid 3:1-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly, am eich bod wedi cael eich codi i fywyd newydd gyda’r Meseia, ceisiwch beth sy’n y nefoedd, lle mae’r Meseia yn eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Edrychwch ar bethau o safbwynt y nefoedd, dim o safbwynt daearol. Buoch farw, ac mae’r bywyd go iawn sydd gynnoch chi nawr wedi’i guddio’n saff gyda’r Meseia yn Nuw. Y Meseia ydy’ch bywyd chi. Pan fydd e’n dod i’r golwg, byddwch chi hefyd yn cael rhannu ei ysblander e. Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, budreddi, pob chwant, a phob tuedd i wneud drwg a bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly! Pethau felly sy’n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy’n anufudd iddo. Dyna sut roeddech chi’n ymddwyn o’r blaen. Ond bellach rhaid i chi gael gwared â nhw: gwylltio a cholli tymer, bod yn faleisus, hel straeon cas a dweud pethau anweddus. Rhaid i chi stopio dweud celwydd wrth eich gilydd, am eich bod wedi rhoi heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd ac wedi gwisgo’r bywyd newydd. Dyma’r ddynoliaeth newydd sy’n cael ei newid i fod yr un fath â’r Crëwr ei hun, ac sy’n dod i nabod Duw yn llawn. Lle mae hyn yn digwydd does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a rhywun o genedl arall, neu rhwng cael eich enwaedu neu ddim; does neb yn cael ei ddiystyru am ei fod yn ‘farbariad di-addysg’ neu’n ‘anwariad gwyllt’; does dim gwahaniaeth rhwng y caethwas a’r dinesydd rhydd. Yr unig beth sy’n cyfri ydy’r Meseia, ac mae e ym mhob un ohonon ni sy’n credu. Mae Duw wedi’ch dewis chi iddo’i hun ac wedi’ch caru chi’n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar. Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi. A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd – mae cariad yn clymu’r cwbl yn berffaith gyda’i gilydd. Gadewch i’r heddwch mae’r Meseia’n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi’ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti’r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar. Gadewch i’r neges wych am y Meseia fyw ynoch chi, a’ch gwneud chi’n ddoeth wrth i chi ddysgu a rhybuddio’ch gilydd. Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw. Gwnewch bopeth gan gofio eich bod yn cynrychioli yr Arglwydd Iesu Grist – ie, popeth! – popeth dych chi’n ei ddweud a’i wneud. Dyna sut dych chi’n dangos eich diolch i Dduw. Rhaid i chi’r gwragedd fod yn atebol i’ch gwŷr – dyna’r peth iawn i bobl yr Arglwydd ei wneud. Rhaid i chi’r gwŷr garu’ch gwragedd a pheidio byth bod yn gas wrthyn nhw. Rhaid i chi’r plant fod yn ufudd i’ch rhieni bob amser, am fod hynny’n plesio’r Arglwydd. Rhaid i chi’r tadau beidio bod mor galed ar eich plant nes eu bod nhw’n digalonni. Rhaid i chi sy’n gaethweision fod yn ufudd i’ch meistri bob amser. Peidiwch gwneud hynny dim ond pan maen nhw’n eich gwylio chi, er mwyn ceisio ennill eu ffafr nhw. Byddwch yn ddidwyll wrth ufuddhau iddyn nhw, am eich bod chi’n parchu’r Arglwydd. Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi’n gweithio i’r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol. Byddwch chi’n derbyn etifeddiaeth yn wobr gan yr Arglwydd. Y Meseia ydy’r meistr dych chi’n ei wasanaethu go iawn. Bydd y rhai sy’n gwneud beth sydd o’i le yn cael beth maen nhw’n ei haeddu – does gan Dduw ddim ffefrynnau.

Colosiaid 3:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Felly, os cyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear. Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant. Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth. O achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai anufudd. Dyna oedd eich ffordd chwithau o ymddwyn ar un adeg, pan oeddech yn byw yn eu canol. Ond yn awr, rhowch heibio'r holl bethau hyn: digofaint, llid, drwgdeimlad, cabledd a bryntni o'ch genau. Peidiwch â dweud celwydd wrth eich gilydd, gan eich bod wedi diosg yr hen natur ddynol, ynghyd â'i gweithredoedd, ac wedi gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd, sy'n cael ei hadnewyddu mewn gwybodaeth ar ddelw ei Chreawdwr. Nid oes yma ragor rhwng Groegiaid ac Iddewon, enwaediad a dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth, rhydd; ond Crist yw pob peth, a Christ sydd ym mhob peth. Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd. Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau. Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd. Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar. Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol. Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef. Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr; hyn yw eich dyletswydd fel pobl yr Arglwydd. Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, a pheidiwch â bod yn llym wrthynt. Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth, oherwydd hyn sydd gymeradwy ym mhobl yr Arglwydd. Chwi dadau, peidiwch â chythruddo eich plant, rhag iddynt ddigalonni. Chwi gaethweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistri daearol, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond mewn unplygrwydd calon yn ofn yr Arglwydd. Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â'ch holl galon, fel i'r Arglwydd, ac nid i neb arall. Gwyddoch mai oddi wrth yr Arglwydd y byddwch yn derbyn yr etifeddiaeth yn wobr. Gwasanaethwch Grist, eich Meistr chwi. Oherwydd y sawl sy'n gwneud cam fydd yn derbyn y cam yn ôl; nid oes ffafriaeth.

Colosiaid 3:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear. Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant. Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eilun-addoliaeth: O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod: Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt. Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o’ch genau. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd; A gwisgo’r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef: Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth. Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros; Gan gyd-ddwyn â’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd. A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef. Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt. Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda. Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont. Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw: A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o’r galon, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion; Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.