Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Colosiaid 3:1-17

Colosiaid 3:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly, am eich bod wedi cael eich codi i fywyd newydd gyda’r Meseia, ceisiwch beth sy’n y nefoedd, lle mae’r Meseia yn eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Edrychwch ar bethau o safbwynt y nefoedd, dim o safbwynt daearol. Buoch farw, ac mae’r bywyd go iawn sydd gynnoch chi nawr wedi’i guddio’n saff gyda’r Meseia yn Nuw. Y Meseia ydy’ch bywyd chi. Pan fydd e’n dod i’r golwg, byddwch chi hefyd yn cael rhannu ei ysblander e. Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, budreddi, pob chwant, a phob tuedd i wneud drwg a bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly! Pethau felly sy’n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy’n anufudd iddo. Dyna sut roeddech chi’n ymddwyn o’r blaen. Ond bellach rhaid i chi gael gwared â nhw: gwylltio a cholli tymer, bod yn faleisus, hel straeon cas a dweud pethau anweddus. Rhaid i chi stopio dweud celwydd wrth eich gilydd, am eich bod wedi rhoi heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd ac wedi gwisgo’r bywyd newydd. Dyma’r ddynoliaeth newydd sy’n cael ei newid i fod yr un fath â’r Crëwr ei hun, ac sy’n dod i nabod Duw yn llawn. Lle mae hyn yn digwydd does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a rhywun o genedl arall, neu rhwng cael eich enwaedu neu ddim; does neb yn cael ei ddiystyru am ei fod yn ‘farbariad di-addysg’ neu’n ‘anwariad gwyllt’; does dim gwahaniaeth rhwng y caethwas a’r dinesydd rhydd. Yr unig beth sy’n cyfri ydy’r Meseia, ac mae e ym mhob un ohonon ni sy’n credu. Mae Duw wedi’ch dewis chi iddo’i hun ac wedi’ch caru chi’n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar. Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi. A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd – mae cariad yn clymu’r cwbl yn berffaith gyda’i gilydd. Gadewch i’r heddwch mae’r Meseia’n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi’ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti’r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar. Gadewch i’r neges wych am y Meseia fyw ynoch chi, a’ch gwneud chi’n ddoeth wrth i chi ddysgu a rhybuddio’ch gilydd. Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw. Gwnewch bopeth gan gofio eich bod yn cynrychioli yr Arglwydd Iesu Grist – ie, popeth! – popeth dych chi’n ei ddweud a’i wneud. Dyna sut dych chi’n dangos eich diolch i Dduw.

Colosiaid 3:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Felly, os cyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear. Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant. Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth. O achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai anufudd. Dyna oedd eich ffordd chwithau o ymddwyn ar un adeg, pan oeddech yn byw yn eu canol. Ond yn awr, rhowch heibio'r holl bethau hyn: digofaint, llid, drwgdeimlad, cabledd a bryntni o'ch genau. Peidiwch â dweud celwydd wrth eich gilydd, gan eich bod wedi diosg yr hen natur ddynol, ynghyd â'i gweithredoedd, ac wedi gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd, sy'n cael ei hadnewyddu mewn gwybodaeth ar ddelw ei Chreawdwr. Nid oes yma ragor rhwng Groegiaid ac Iddewon, enwaediad a dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth, rhydd; ond Crist yw pob peth, a Christ sydd ym mhob peth. Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd. Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau. Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd. Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar. Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol. Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.

Colosiaid 3:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear. Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant. Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eilun-addoliaeth: O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod: Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt. Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o’ch genau. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd; A gwisgo’r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef: Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth. Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros; Gan gyd-ddwyn â’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd. A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef.