Colosiaid 2:6-10
Colosiaid 2:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, gan eich bod wedi derbyn Crist Iesu, yr Arglwydd, dylech fyw ynddo ef. Cadwch eich gwreiddiau ynddo, gan gael eich adeiladu ynddo, a'ch cadarnhau yn y ffydd fel y'ch dysgwyd, a bod yn ddibrin eich diolch. Gwyliwch rhag i neb eich cipio i gaethiwed drwy athroniaeth a gwag hudoliaeth yn ôl traddodiad dynol, yn ôl ysbrydion elfennig y cyfanfyd, ac nid yn ôl Crist. Oherwydd ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio'n gorfforol, ac yr ydych chwithau wedi eich dwyn i gyflawnder ynddo ef. Y mae ef yn ben ar bob tywysogaeth ac awdurdod.
Colosiaid 2:6-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch. Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist. Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol. Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod