Colosiaid 2:20-23
Colosiaid 2:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os buoch farw gyda Christ i ysbrydion elfennig y cyfanfyd, pam yr ydych, fel petaech yn byw o hyd yn y byd, yn ymddarostwng i orchmynion: “Peidiwch â chyffwrdd”, “Peidiwch â blasu”, “Peidiwch â thrafod”— a hynny ynglŷn â phethau sydd i gyd yn darfod wrth eu defnyddio? Dilyn rheolau ac athrawiaethau dynol yr ydych. Y mae i'r fath bethau enw doethineb, gyda'u crefydd wneud, eu hunanddiraddiad, a'u triniaeth lem o'r corff. Ond nid ydynt o unrhyw werth i atal cnawdolrwydd.
Colosiaid 2:20-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau, (Na chyffwrdd; ac nac archwaetha; ac na theimla; Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion? Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys-grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni’r cnawd.
Colosiaid 2:20-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Buoch farw gyda’r Meseia, a dych chi wedi’ch rhyddhau o afael y dylanwadau drwg sy’n rheoli’r byd yma. Felly pam dych chi’n dal i ddilyn rhyw fân reolau fel petaech chi’n dal i ddilyn ffordd y byd? – “Peidiwch gwneud hyn! Peidiwch blasu hwn! Peidiwch cyffwrdd rhywbeth arall!” (Mân-reolau wedi’u dyfeisio gan bobl ydy pethau felly! Mae bwyd wedi mynd unwaith mae wedi’i fwyta!) Falle fod rheolau o’r fath yn ymddangos yn beth doeth i rai – defosiwn haearnaidd, disgyblu’r corff a’i drin yn llym – ond dŷn nhw’n dda i ddim i atal chwantau a meddyliau drwg.