Colosiaid 2:1-3
Colosiaid 2:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i eisiau i chi wybod mor galed dw i’n gweithio drosoch chi a’r Cristnogion yn Laodicea, a dros lawer o bobl eraill sydd ddim wedi nghyfarfod i. Y bwriad ydy rhoi hyder iddyn nhw a’u helpu i garu ei gilydd yn fwy, a bod yn hollol sicr eu bod wedi deall y cynllun dirgel roedd Duw wedi’i gadw o’r golwg o’r blaen. Y Meseia ei hun ydy hwnnw! Mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth wedi’u storio ynddo fe.
Colosiaid 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd yr wyf am ichwi wybod cymaint yw fy ymdrech drosoch chwi, a thros y rhai sydd yn Laodicea, a phawb sydd heb fy ngweld wyneb yn wyneb. Fy nod yw eu calonogi a'u clymu ynghyd mewn cariad, iddynt gael holl gyfoeth y sicrwydd a ddaw yn sgîl dealltwriaeth, ac iddynt amgyffred dirgelwch Duw, sef Crist. Ynddo ef y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.
Colosiaid 2:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a’r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd; Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a’r Tad, a Christ; Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.