Colosiaid 1:3-5
Colosiaid 1:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, pan dŷn ni’n gweddïo drosoch chi. Dŷn ni wedi clywed am eich ffyddlondeb chi i’r Meseia Iesu ac am y cariad sydd gynnoch chi at bawb arall sy’n credu. Mae’r ffydd a’r cariad hwnnw’n tarddu o’r gobaith hyderus y byddwch chi’n derbyn y cwbl sydd wedi’i storio yn y nefoedd i chi. Dych chi wedi clywed am hyn o’r blaen, pan gafodd y gwir (sef y newyddion da)
Colosiaid 1:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym bob amser yn ein gweddïau yn diolch amdanoch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, oherwydd i ni glywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint, deubeth sy'n tarddu o wrthrych eich gobaith, sydd ynghadw yn y nefoedd i chwi. Clywsoch eisoes am y gobaith hwn, yng ngair y gwirionedd, yr Efengyl
Colosiaid 1:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddïo drosoch chwi yn wastadol, Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint; Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o’r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl