Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Colosiaid 1:3-14

Colosiaid 1:3-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, pan dŷn ni’n gweddïo drosoch chi. Dŷn ni wedi clywed am eich ffyddlondeb chi i’r Meseia Iesu ac am y cariad sydd gynnoch chi at bawb arall sy’n credu. Mae’r ffydd a’r cariad hwnnw’n tarddu o’r gobaith hyderus y byddwch chi’n derbyn y cwbl sydd wedi’i storio yn y nefoedd i chi. Dych chi wedi clywed am hyn o’r blaen, pan gafodd y gwir (sef y newyddion da) ei rannu gyda chi am y tro cyntaf. Mae’r newyddion da yn mynd ar led ac yn dwyn ffrwyth drwy’r byd i gyd, a dyna’n union sydd wedi digwydd yn eich plith chi ers y diwrnod cyntaf i chi glywed am haelioni rhyfeddol Duw, a dod i’w ddeall yn iawn. Epaffras, ein cydweithiwr annwyl ni, ddysgodd hyn i gyd i chi, ac mae wedi bod yn gwasanaethu’r Meseia yn ffyddlon ar ein rhan ni. Mae wedi dweud wrthon ni am y cariad mae’r Ysbryd wedi’i blannu ynoch chi. Ac felly dŷn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywon ni hynny. Dŷn ni’n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae eisiau, a’ch gwneud chi’n ddoeth i allu deall pethau ysbrydol. Pwrpas hynny yn y pen draw ydy i chi fyw fel mae Duw am i chi fyw, a’i blesio fe ym mhob ffordd: drwy fyw bywydau sy’n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i nabod Duw yn well. Dŷn ni’n gweddïo y bydd Duw yn defnyddio’r holl rym anhygoel sydd ganddo i’ch gwneud chi’n gryfach ac yn gryfach. Wedyn byddwch chi’n gallu dal ati yn amyneddgar, a diolch yn llawen i’r Tad. Fe sydd wedi’ch gwneud chi’n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi’i gadw i’w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni. Mae e wedi’n hachub ni o’r tywyllwch oedd yn ein gormesu ni. Ac mae wedi dod â ni dan deyrnasiad y Mab mae’n ei garu. Ei Fab sydd wedi’n gollwng ni’n rhydd! Mae wedi maddau’n pechodau ni!

Colosiaid 1:3-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr ydym bob amser yn ein gweddïau yn diolch amdanoch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, oherwydd i ni glywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint, deubeth sy'n tarddu o wrthrych eich gobaith, sydd ynghadw yn y nefoedd i chwi. Clywsoch eisoes am y gobaith hwn, yng ngair y gwirionedd, yr Efengyl sydd wedi dod atoch. Y mae'r Efengyl yn dwyn ffrwyth ac yn cynyddu trwy'r holl fyd, yn union fel y mae hefyd yn eich plith chwi, o'r dydd y clywsoch am ras Duw a'i amgyffred mewn gwirionedd. Dysgasoch hyn oddi wrth Epaffras, ein cydwas annwyl, sy'n weinidog ffyddlon i Grist ar eich rhan, ac ef sydd wedi'n hysbysu ni am eich cariad yn yr Ysbryd. Oherwydd hyn, o'r dydd y clywsom hynny, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch. Deisyf yr ydym ar ichwi gael eich llenwi, trwy bob doethineb a deall ysbrydol, ag amgyffrediad o ewyllys Duw, er mwyn ichwi fyw yn deilwng o'r Arglwydd a rhyngu ei fodd yn gyfan gwbl, gan ddwyn ffrwyth mewn gweithredoedd da o bob math, a chynyddu yn eich adnabyddiaeth o Dduw. Yr ydym yn deisyf ar ichwi gael eich grymuso â phob grymuster, yn ôl nerth ei ogoniant ef, i ddyfalbarhau a hirymaros yn llawen ym mhob dim, gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'ch gwnaeth yn gymwys i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab, yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau.