Colosiaid 1:21-22
Colosiaid 1:21-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ydy, mae wedi’ch cymodi chi hefyd! Chi oedd mor bell oddi wrth Dduw ar un adeg. Roeddech yn elynion iddo ac yn gwneud pob math o bethau drwg. Mae wedi’ch gwneud chi’n ffrindiau iddo’i hun drwy ddod yn ddyn o gig a gwaed, a marw ar y groes. Mae’n dod â chi at Dduw yn lân, yn ddi-fai, a heb unrhyw gyhuddiad yn eich erbyn.
Colosiaid 1:21-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oeddech chwithau ar un adeg wedi ymddieithrio, ac yn elyniaethus eich meddwl, a'ch gweithredoedd yn ddrwg. Ond yn awr fe'ch cymododd, yng nghorff ei gnawd trwy ei farwolaeth, i'ch cyflwyno'n sanctaidd a di-fai a di-fefl ger ei fron.
Colosiaid 1:21-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe, Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef