Colosiaid 1:19-20
Colosiaid 1:19-20 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Achos roedd Duw yn gyfan wedi dewis byw ynddo, ac yn cymodi popeth ag e’i hun drwyddo – pethau ar y ddaear ac yn y nefoedd. Daeth â heddwch drwy farw ar y groes.
Colosiaid 1:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd gwelodd Duw yn dda i'w holl gyflawnder breswylio ynddo ef, a thrwyddo ef, ar ôl gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a'r pethau sydd yn y nefoedd.
Colosiaid 1:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.