Colosiaid 1:15-23
Colosiaid 1:15-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n dangos yn union sut un ydy’r Duw anweledig – y ‘mab hynaf’ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan. Cafodd popeth ei greu ganddo fe: popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear, popeth sydd i’w weld, a phopeth sy’n anweledig – y grymoedd a’r pwerau sy’n llywodraethu a rheoli. Cafodd popeth ei greu ganddo fe, i’w anrhydeddu e. Roedd yn bodoli o flaen popeth arall, a fe sy’n dal y cwbl gyda’i gilydd. Fe hefyd ydy’r pen ar y corff, sef yr eglwys; Fe ydy ei ffynhonnell hi, a’r ‘mab hynaf’ oedd gyntaf i ddod yn ôl yn fyw, fel ei fod yn cael y lle blaenaf o’r cwbl i gyd. Achos roedd Duw yn gyfan wedi dewis byw ynddo, ac yn cymodi popeth ag e’i hun drwyddo – pethau ar y ddaear ac yn y nefoedd. Daeth â heddwch drwy farw ar y groes. Ydy, mae wedi’ch cymodi chi hefyd! Chi oedd mor bell oddi wrth Dduw ar un adeg. Roeddech yn elynion iddo ac yn gwneud pob math o bethau drwg. Mae wedi’ch gwneud chi’n ffrindiau iddo’i hun drwy ddod yn ddyn o gig a gwaed, a marw ar y groes. Mae’n dod â chi at Dduw yn lân, yn ddi-fai, a heb unrhyw gyhuddiad yn eich erbyn. Ond rhaid i chi ddal i gredu, a bod yn gryf ac yn gadarn, a pheidio gollwng gafael yn y gobaith sicr mae’r newyddion da yn ei gynnig i chi. Dyma’r newyddion da glywoch chi, ac sydd wedi’i gyhoeddi drwy’r byd i gyd. A dyna’r gwaith dw i, Paul, wedi’i gael i’w wneud.
Colosiaid 1:15-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth; oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu. Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. Ef hefyd yw pen y corff, sef yr eglwys. Ef yw'r dechrau, y cyntafanedig o blith y meirw, i fod ei hun yn gyntaf ym mhob peth. Oherwydd gwelodd Duw yn dda i'w holl gyflawnder breswylio ynddo ef, a thrwyddo ef, ar ôl gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a'r pethau sydd yn y nefoedd. Yr oeddech chwithau ar un adeg wedi ymddieithrio, ac yn elyniaethus eich meddwl, a'ch gweithredoedd yn ddrwg. Ond yn awr fe'ch cymododd, yng nghorff ei gnawd trwy ei farwolaeth, i'ch cyflwyno'n sanctaidd a di-fai a di-fefl ger ei fron. Ond y mae'n rhaid ichwi barhau yn eich ffydd, yn gadarn a diysgog, a pheidio â symud oddi wrth obaith yr Efengyl a glywsoch. Dyma'r Efengyl a bregethwyd ym mhob rhan o'r greadigaeth dan y nef, a'r Efengyl y deuthum i, Paul, yn weinidog iddi.
Colosiaid 1:15-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur: Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf-anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth. Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd. A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe, Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef: Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a’ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog