Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Colosiaid 1:12-23

Colosiaid 1:12-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

a diolch yn llawen i’r Tad. Fe sydd wedi’ch gwneud chi’n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi’i gadw i’w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni. Mae e wedi’n hachub ni o’r tywyllwch oedd yn ein gormesu ni. Ac mae wedi dod â ni dan deyrnasiad y Mab mae’n ei garu. Ei Fab sydd wedi’n gollwng ni’n rhydd! Mae wedi maddau’n pechodau ni! Mae’n dangos yn union sut un ydy’r Duw anweledig – y ‘mab hynaf’ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan. Cafodd popeth ei greu ganddo fe: popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear, popeth sydd i’w weld, a phopeth sy’n anweledig – y grymoedd a’r pwerau sy’n llywodraethu a rheoli. Cafodd popeth ei greu ganddo fe, i’w anrhydeddu e. Roedd yn bodoli o flaen popeth arall, a fe sy’n dal y cwbl gyda’i gilydd. Fe hefyd ydy’r pen ar y corff, sef yr eglwys; Fe ydy ei ffynhonnell hi, a’r ‘mab hynaf’ oedd gyntaf i ddod yn ôl yn fyw, fel ei fod yn cael y lle blaenaf o’r cwbl i gyd. Achos roedd Duw yn gyfan wedi dewis byw ynddo, ac yn cymodi popeth ag e’i hun drwyddo – pethau ar y ddaear ac yn y nefoedd. Daeth â heddwch drwy farw ar y groes. Ydy, mae wedi’ch cymodi chi hefyd! Chi oedd mor bell oddi wrth Dduw ar un adeg. Roeddech yn elynion iddo ac yn gwneud pob math o bethau drwg. Mae wedi’ch gwneud chi’n ffrindiau iddo’i hun drwy ddod yn ddyn o gig a gwaed, a marw ar y groes. Mae’n dod â chi at Dduw yn lân, yn ddi-fai, a heb unrhyw gyhuddiad yn eich erbyn. Ond rhaid i chi ddal i gredu, a bod yn gryf ac yn gadarn, a pheidio gollwng gafael yn y gobaith sicr mae’r newyddion da yn ei gynnig i chi. Dyma’r newyddion da glywoch chi, ac sydd wedi’i gyhoeddi drwy’r byd i gyd. A dyna’r gwaith dw i, Paul, wedi’i gael i’w wneud.

Colosiaid 1:12-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau: Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur: Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf-anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth. Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd. A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe, Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef: Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a’ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog