Colosiaid 1:12-17
Colosiaid 1:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'ch gwnaeth yn gymwys i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab, yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau. Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth; oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu. Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.
Colosiaid 1:12-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
a diolch yn llawen i’r Tad. Fe sydd wedi’ch gwneud chi’n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi’i gadw i’w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni. Mae e wedi’n hachub ni o’r tywyllwch oedd yn ein gormesu ni. Ac mae wedi dod â ni dan deyrnasiad y Mab mae’n ei garu. Ei Fab sydd wedi’n gollwng ni’n rhydd! Mae wedi maddau’n pechodau ni! Mae’n dangos yn union sut un ydy’r Duw anweledig – y ‘mab hynaf’ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan. Cafodd popeth ei greu ganddo fe: popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear, popeth sydd i’w weld, a phopeth sy’n anweledig – y grymoedd a’r pwerau sy’n llywodraethu a rheoli. Cafodd popeth ei greu ganddo fe, i’w anrhydeddu e. Roedd yn bodoli o flaen popeth arall, a fe sy’n dal y cwbl gyda’i gilydd.
Colosiaid 1:12-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau: Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur: Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.