Colosiaid 1:11-12
Colosiaid 1:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym yn deisyf ar ichwi gael eich grymuso â phob grymuster, yn ôl nerth ei ogoniant ef, i ddyfalbarhau a hirymaros yn llawen ym mhob dim, gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'ch gwnaeth yn gymwys i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.
Rhanna
Darllen Colosiaid 1Colosiaid 1:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni’n gweddïo y bydd Duw yn defnyddio’r holl rym anhygoel sydd ganddo i’ch gwneud chi’n gryfach ac yn gryfach. Wedyn byddwch chi’n gallu dal ati yn amyneddgar, a diolch yn llawen i’r Tad. Fe sydd wedi’ch gwneud chi’n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi’i gadw i’w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni.
Rhanna
Darllen Colosiaid 1