Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Colosiaid 1:1-23

Colosiaid 1:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a Timotheus ein brawd, at y saint yn Colosae, rhai ffyddlon yng Nghrist. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad. Yr ydym bob amser yn ein gweddïau yn diolch amdanoch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, oherwydd i ni glywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint, deubeth sy'n tarddu o wrthrych eich gobaith, sydd ynghadw yn y nefoedd i chwi. Clywsoch eisoes am y gobaith hwn, yng ngair y gwirionedd, yr Efengyl sydd wedi dod atoch. Y mae'r Efengyl yn dwyn ffrwyth ac yn cynyddu trwy'r holl fyd, yn union fel y mae hefyd yn eich plith chwi, o'r dydd y clywsoch am ras Duw a'i amgyffred mewn gwirionedd. Dysgasoch hyn oddi wrth Epaffras, ein cydwas annwyl, sy'n weinidog ffyddlon i Grist ar eich rhan, ac ef sydd wedi'n hysbysu ni am eich cariad yn yr Ysbryd. Oherwydd hyn, o'r dydd y clywsom hynny, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch. Deisyf yr ydym ar ichwi gael eich llenwi, trwy bob doethineb a deall ysbrydol, ag amgyffrediad o ewyllys Duw, er mwyn ichwi fyw yn deilwng o'r Arglwydd a rhyngu ei fodd yn gyfan gwbl, gan ddwyn ffrwyth mewn gweithredoedd da o bob math, a chynyddu yn eich adnabyddiaeth o Dduw. Yr ydym yn deisyf ar ichwi gael eich grymuso â phob grymuster, yn ôl nerth ei ogoniant ef, i ddyfalbarhau a hirymaros yn llawen ym mhob dim, gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'ch gwnaeth yn gymwys i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab, yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau. Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth; oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu. Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. Ef hefyd yw pen y corff, sef yr eglwys. Ef yw'r dechrau, y cyntafanedig o blith y meirw, i fod ei hun yn gyntaf ym mhob peth. Oherwydd gwelodd Duw yn dda i'w holl gyflawnder breswylio ynddo ef, a thrwyddo ef, ar ôl gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a'r pethau sydd yn y nefoedd. Yr oeddech chwithau ar un adeg wedi ymddieithrio, ac yn elyniaethus eich meddwl, a'ch gweithredoedd yn ddrwg. Ond yn awr fe'ch cymododd, yng nghorff ei gnawd trwy ei farwolaeth, i'ch cyflwyno'n sanctaidd a di-fai a di-fefl ger ei fron. Ond y mae'n rhaid ichwi barhau yn eich ffydd, yn gadarn a diysgog, a pheidio â symud oddi wrth obaith yr Efengyl a glywsoch. Dyma'r Efengyl a bregethwyd ym mhob rhan o'r greadigaeth dan y nef, a'r Efengyl y deuthum i, Paul, yn weinidog iddi.

Colosiaid 1:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i’r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd, At bobl Dduw yn Colosae sy’n ddilynwyr ffyddlon i’r Meseia: Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad yn ei roi i ni. Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, pan dŷn ni’n gweddïo drosoch chi. Dŷn ni wedi clywed am eich ffyddlondeb chi i’r Meseia Iesu ac am y cariad sydd gynnoch chi at bawb arall sy’n credu. Mae’r ffydd a’r cariad hwnnw’n tarddu o’r gobaith hyderus y byddwch chi’n derbyn y cwbl sydd wedi’i storio yn y nefoedd i chi. Dych chi wedi clywed am hyn o’r blaen, pan gafodd y gwir (sef y newyddion da) ei rannu gyda chi am y tro cyntaf. Mae’r newyddion da yn mynd ar led ac yn dwyn ffrwyth drwy’r byd i gyd, a dyna’n union sydd wedi digwydd yn eich plith chi ers y diwrnod cyntaf i chi glywed am haelioni rhyfeddol Duw, a dod i’w ddeall yn iawn. Epaffras, ein cydweithiwr annwyl ni, ddysgodd hyn i gyd i chi, ac mae wedi bod yn gwasanaethu’r Meseia yn ffyddlon ar ein rhan ni. Mae wedi dweud wrthon ni am y cariad mae’r Ysbryd wedi’i blannu ynoch chi. Ac felly dŷn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywon ni hynny. Dŷn ni’n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae eisiau, a’ch gwneud chi’n ddoeth i allu deall pethau ysbrydol. Pwrpas hynny yn y pen draw ydy i chi fyw fel mae Duw am i chi fyw, a’i blesio fe ym mhob ffordd: drwy fyw bywydau sy’n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i nabod Duw yn well. Dŷn ni’n gweddïo y bydd Duw yn defnyddio’r holl rym anhygoel sydd ganddo i’ch gwneud chi’n gryfach ac yn gryfach. Wedyn byddwch chi’n gallu dal ati yn amyneddgar, a diolch yn llawen i’r Tad. Fe sydd wedi’ch gwneud chi’n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi’i gadw i’w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni. Mae e wedi’n hachub ni o’r tywyllwch oedd yn ein gormesu ni. Ac mae wedi dod â ni dan deyrnasiad y Mab mae’n ei garu. Ei Fab sydd wedi’n gollwng ni’n rhydd! Mae wedi maddau’n pechodau ni! Mae’n dangos yn union sut un ydy’r Duw anweledig – y ‘mab hynaf’ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan. Cafodd popeth ei greu ganddo fe: popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear, popeth sydd i’w weld, a phopeth sy’n anweledig – y grymoedd a’r pwerau sy’n llywodraethu a rheoli. Cafodd popeth ei greu ganddo fe, i’w anrhydeddu e. Roedd yn bodoli o flaen popeth arall, a fe sy’n dal y cwbl gyda’i gilydd. Fe hefyd ydy’r pen ar y corff, sef yr eglwys; Fe ydy ei ffynhonnell hi, a’r ‘mab hynaf’ oedd gyntaf i ddod yn ôl yn fyw, fel ei fod yn cael y lle blaenaf o’r cwbl i gyd. Achos roedd Duw yn gyfan wedi dewis byw ynddo, ac yn cymodi popeth ag e’i hun drwyddo – pethau ar y ddaear ac yn y nefoedd. Daeth â heddwch drwy farw ar y groes. Ydy, mae wedi’ch cymodi chi hefyd! Chi oedd mor bell oddi wrth Dduw ar un adeg. Roeddech yn elynion iddo ac yn gwneud pob math o bethau drwg. Mae wedi’ch gwneud chi’n ffrindiau iddo’i hun drwy ddod yn ddyn o gig a gwaed, a marw ar y groes. Mae’n dod â chi at Dduw yn lân, yn ddi-fai, a heb unrhyw gyhuddiad yn eich erbyn. Ond rhaid i chi ddal i gredu, a bod yn gryf ac yn gadarn, a pheidio gollwng gafael yn y gobaith sicr mae’r newyddion da yn ei gynnig i chi. Dyma’r newyddion da glywoch chi, ac sydd wedi’i gyhoeddi drwy’r byd i gyd. A dyna’r gwaith dw i, Paul, wedi’i gael i’w wneud.

Colosiaid 1:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd, At y saint a’r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddïo drosoch chwi yn wastadol, Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint; Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o’r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl: Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd: Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gyd-was, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist; Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd. Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol; Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw; Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau: Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur: Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf-anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth. Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd. A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe, Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef: Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a’ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog