Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Colosiaid 1:1-14

Colosiaid 1:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a Timotheus ein brawd, at y saint yn Colosae, rhai ffyddlon yng Nghrist. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad. Yr ydym bob amser yn ein gweddïau yn diolch amdanoch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, oherwydd i ni glywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint, deubeth sy'n tarddu o wrthrych eich gobaith, sydd ynghadw yn y nefoedd i chwi. Clywsoch eisoes am y gobaith hwn, yng ngair y gwirionedd, yr Efengyl sydd wedi dod atoch. Y mae'r Efengyl yn dwyn ffrwyth ac yn cynyddu trwy'r holl fyd, yn union fel y mae hefyd yn eich plith chwi, o'r dydd y clywsoch am ras Duw a'i amgyffred mewn gwirionedd. Dysgasoch hyn oddi wrth Epaffras, ein cydwas annwyl, sy'n weinidog ffyddlon i Grist ar eich rhan, ac ef sydd wedi'n hysbysu ni am eich cariad yn yr Ysbryd. Oherwydd hyn, o'r dydd y clywsom hynny, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch. Deisyf yr ydym ar ichwi gael eich llenwi, trwy bob doethineb a deall ysbrydol, ag amgyffrediad o ewyllys Duw, er mwyn ichwi fyw yn deilwng o'r Arglwydd a rhyngu ei fodd yn gyfan gwbl, gan ddwyn ffrwyth mewn gweithredoedd da o bob math, a chynyddu yn eich adnabyddiaeth o Dduw. Yr ydym yn deisyf ar ichwi gael eich grymuso â phob grymuster, yn ôl nerth ei ogoniant ef, i ddyfalbarhau a hirymaros yn llawen ym mhob dim, gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'ch gwnaeth yn gymwys i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab, yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau.

Colosiaid 1:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i’r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd, At bobl Dduw yn Colosae sy’n ddilynwyr ffyddlon i’r Meseia: Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad yn ei roi i ni. Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, pan dŷn ni’n gweddïo drosoch chi. Dŷn ni wedi clywed am eich ffyddlondeb chi i’r Meseia Iesu ac am y cariad sydd gynnoch chi at bawb arall sy’n credu. Mae’r ffydd a’r cariad hwnnw’n tarddu o’r gobaith hyderus y byddwch chi’n derbyn y cwbl sydd wedi’i storio yn y nefoedd i chi. Dych chi wedi clywed am hyn o’r blaen, pan gafodd y gwir (sef y newyddion da) ei rannu gyda chi am y tro cyntaf. Mae’r newyddion da yn mynd ar led ac yn dwyn ffrwyth drwy’r byd i gyd, a dyna’n union sydd wedi digwydd yn eich plith chi ers y diwrnod cyntaf i chi glywed am haelioni rhyfeddol Duw, a dod i’w ddeall yn iawn. Epaffras, ein cydweithiwr annwyl ni, ddysgodd hyn i gyd i chi, ac mae wedi bod yn gwasanaethu’r Meseia yn ffyddlon ar ein rhan ni. Mae wedi dweud wrthon ni am y cariad mae’r Ysbryd wedi’i blannu ynoch chi. Ac felly dŷn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywon ni hynny. Dŷn ni’n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae eisiau, a’ch gwneud chi’n ddoeth i allu deall pethau ysbrydol. Pwrpas hynny yn y pen draw ydy i chi fyw fel mae Duw am i chi fyw, a’i blesio fe ym mhob ffordd: drwy fyw bywydau sy’n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i nabod Duw yn well. Dŷn ni’n gweddïo y bydd Duw yn defnyddio’r holl rym anhygoel sydd ganddo i’ch gwneud chi’n gryfach ac yn gryfach. Wedyn byddwch chi’n gallu dal ati yn amyneddgar, a diolch yn llawen i’r Tad. Fe sydd wedi’ch gwneud chi’n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi’i gadw i’w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni. Mae e wedi’n hachub ni o’r tywyllwch oedd yn ein gormesu ni. Ac mae wedi dod â ni dan deyrnasiad y Mab mae’n ei garu. Ei Fab sydd wedi’n gollwng ni’n rhydd! Mae wedi maddau’n pechodau ni!

Colosiaid 1:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd, At y saint a’r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddïo drosoch chwi yn wastadol, Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint; Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o’r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl: Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd: Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gyd-was, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist; Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd. Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol; Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw; Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau