Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 8:1-14

Amos 8:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma fasgedaid o ffrwythau haf, a gofynnodd ef, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Basgedaid o ffrwythau haf.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt byth eto. Bydd cantorion y deml yn galarnadu yn y dydd hwnnw,” medd yr Arglwydd DDUW, “bod y cyrff mor niferus fel y teflir hwy'n ddisôn ym mhob man.” Gwrandewch hyn, chwi sy'n sathru'r anghenus ac yn difa tlodion y wlad, ac yn dweud, “Pa bryd y mae'r newydd-loer yn diweddu, inni gael gwerthu ŷd; a'r saboth, inni roi'r grawn ar werth, inni leihau'r effa a thrymhau'r sicl, inni gael twyllo â chloriannau anghywir, inni gael prynu'r tlawd am arian a'r anghenus am bâr o sandalau, a gwerthu ysgubion yr ŷd?” Tyngodd yr ARGLWYDD i falchder Jacob, “Ni allaf fyth anghofio'u gweithredoedd. Onid am hyn y cryna'r ddaear nes y galara'i holl drigolion, ac y cwyd i gyd fel y Neil, a dygyfor a gostwng fel afon yr Aifft?” “Y dydd hwnnw,” medd yr Arglwydd DDUW, “gwnaf i'r haul fachlud am hanner dydd, a thywyllaf y ddaear gefn dydd golau. Trof eich gwyliau yn alaru a'ch holl ganiadau yn wylofain; rhof sachliain am eich llwynau a moelni ar eich pennau. Fe'i gwnaf yn debyg i alar am unig fab; bydd ei ddiwedd yn ddiwrnod chwerw. “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr Arglwydd DDUW, “pan anfonaf newyn i'r wlad; nid newyn am fara, na syched am ddŵr, ond am glywed geiriau'r ARGLWYDD. Crwydrant o fôr i fôr ac o'r gogledd i'r dwyrain; ânt yn ôl ac ymlaen i geisio gair yr ARGLWYDD, ond heb ei gael. “Yn y dydd hwnnw, bydd gwyryfon teg a gwŷr ifainc yn llewygu o syched. Y rhai sy'n tyngu i Asima Samaria, ac yn dweud, ‘Cyn wired â bod dy dduw yn fyw, Dan’, neu, ‘Cyn wired â bod dy dduw yn fyw, Beerseba’— fe syrthiant oll heb godi byth mwy.”

Amos 8:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: Basged yn llawn ffigys aeddfed. A gofynnodd i mi, “Beth wyt ti’n weld, Amos?” Dyma finnau’n ateb, “Basged yn llawn ffigys aeddfed”. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae’r diwedd wedi dod ar fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto. Bydd y merched sy’n canu yn y palas yn udo crio ar y diwrnod hwnnw,” – fy Meistr, yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn – “Bydd cymaint o gyrff marw yn gorwedd ym mhobman! Distawrwydd llethol!” Gwrandwch ar hyn, chi sy’n sathru’r gwan, ac eisiau cael gwared â phobl dlawd yn y wlad. Chi sy’n mwmblan i’ch hunain, “Pryd fydd gŵyl y lleuad newydd drosodd? – i ni gael gwerthu’n cnydau eto. Pryd fydd y dydd Saboth drosodd? – i ni gael gwerthu’r ŷd eto. Gallwn godi pris uchel am fesur prin, a defnyddio clorian sy’n twyllo. Gallwn brynu am arian bobl dlawd sydd mewn dyled, a’r rhai sydd heb ddigon i dalu am bâr o sandalau. Gallwn gymysgu’r gwastraff gyda’r grawn!” Mae’r ARGLWYDD yn tyngu i’w enw ei hun, Balchder Jacob: “Wna i byth anghofio beth maen nhw wedi’i wneud.” Felly bydd y ddaear yn ysgwyd o achos hyn a phawb sy’n byw arni yn galaru. Bydd y ddaear gyfan yn codi fel afon Nîl; yn chwyddo ac yna’n suddo fel yr afon yn yr Aifft. “A’r diwrnod hwnnw,” –fy Meistr, yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn, “bydda i’n gwneud i’r haul fachlud ganol dydd, a bydd y wlad yn troi’n dywyll yng ngolau dydd. Bydda i’n troi eich partïon yn angladdau a’ch holl ganeuon yn gerddi galar. Bydda i’n rhoi sachliain amdanoch chi, a bydd pob pen yn cael ei siafio. Bydd fel y galaru pan mae rhywun wedi colli unig fab; fydd y cwbl yn ddim byd ond un profiad chwerw.” “Gwyliwch chi! mae’r amser yn dod” –fy Meistr, yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn, “pan fydda i’n anfon newyn drwy’r wlad.” Dim newyn am fara neu syched am ddŵr, ond awydd gwirioneddol i glywed neges yr ARGLWYDD. Bydd pobl yn crwydro o Fôr y Canoldir yn y gorllewin i’r Môr Marw yn y de ac o’r gogledd i’r dwyrain, er mwyn cael clywed neges yr ARGLWYDD, ond byddan nhw’n methu. Bryd hynny, bydd merched ifanc hardd a dynion ifanc cryf yn llewygu am fod syched arnyn nhw – Y rhai sy’n tyngu llw i eilun cywilyddus Samaria, ac yn dweud, “Fel mae dy dduw di yn fyw, Dan!” neu “Fel mae’r un cryf sydd ynot ti yn fyw Beersheba!” – byddan nhw’n syrthio, a byth yn codi eto.

Amos 8:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD i mi; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf. Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt mwyach. Caniadau y deml hefyd a droir yn udo ar y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD DDUW: llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle; bwrir hwynt allan yn ddistaw. Gwrandewch hyn, y sawl ydych yn llyncu yr anghenog, i ddifa tlodion y tir, Gan ddywedyd, Pa bryd yr â y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a’r Saboth, fel y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll? I brynu y tlawd er arian, a’r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith? Tyngodd yr ARGLWYDD i ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiaf byth yr un o’u gweithredoedd hwynt. Oni chrŷn y ddaear am hyn? ac oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft. A’r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD DDUW, y gwnaf i’r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau. Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a’ch holl ganiadau yn oernad: dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob pen: a mi a’i gwnaf fel galar am unmab, a’i ddiwedd fel dydd chwerw. Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD DDUW, yr anfonaf newyn i’r tir; nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau yr ARGLWYDD. A hwy a grwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o’r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr ARGLWYDD, ac nis cânt. Y diwrnod hwnnw y gwyryfon glân a’r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched. Y rhai a dyngant i bechod Samaria, ac a ddywedant, Byw yw dy dduw di, O Dan; a, Byw yw ffordd Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy.