Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 6:1-14

Amos 6:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwae y rhai sydd mewn esmwythyd yn Seion, y rhai sy'n teimlo'n ddiogel ar Fynydd Samaria, gwŷr mawr y genedl bennaf, y rhai y mae tŷ Israel yn troi atynt. Ewch trosodd i Calne ac edrychwch; oddi yno ewch i Hamath fawr, ac yna i lawr i Gath y Philistiaid. A ydynt yn well na'ch teyrnasoedd chwi? A yw eu tiriogaeth yn fwy na'r eiddoch chwi? Chwi, sy'n ceisio pellhau'r dydd drwg, ond yn dwyn teyrnasiad trais yn nes; yn gorwedd ar welyau ifori ac yn ymestyn ar eich matresi; yn gwledda ar ŵyn o'r ddiadell ac ar y lloi pasgedig; yn canu maswedd i sain y nabl, ac fel Dafydd yn dyfeisio offerynnau cerdd; yn yfed gwin fesul powlennaid, ac yn eich iro'ch hunain â'r olew gorau; ond heb boeni am ddinistr Joseff! Felly, yn awr, chwi fydd y cyntaf i'r gaethglud; derfydd am rialtwch y rhai sy'n gorweddian. Tyngodd yr Arglwydd DDUW iddo'i hun; medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd: “Yr wyf yn ffieiddio balchder Jacob, ac yn casáu ei geyrydd; gadawaf y ddinas a phopeth sydd ynddi.” Os gadewir deg o bobl mewn un tŷ, byddant farw. Pan ddaw perthynas, sydd am losgi un ohonynt, yno i'w godi a dwyn ei gorff allan o'r tŷ, a dweud wrth un sydd yng nghanol y tŷ, “A oes rhywun gyda thi?” fe ddywed yntau, “Nac oes.” Yna fe ddywed, “Taw! Nid yw enw'r ARGLWYDD i'w grybwyll.” Wele, yr ARGLWYDD sy'n gorchymyn; bydd yn taro'r plasty yn deilchion a'r bwthyn yn siwrwd. A garlama meirch ar graig? A ellir aredig môr ag ychen? Ond troesoch chwi farn yn wenwyn, a ffrwyth cyfiawnder yn wermod. Llawenhau yr ydych am Lo-debar, a dweud, “Onid trwy ein nerth ein hunain y cymerasom ni Carnaim?” “Wele, yr wyf yn codi cenedl yn eich erbyn, tŷ Israel,” medd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, “ac fe'ch gorthrymant o Lebo-hamath hyd at afon yr Araba.”

Amos 6:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwae chi sydd mor gyfforddus yn Seion, ac yn teimlo mor saff ar fryniau Samaria! Chi bobl bwysig y genedl sbesial ma – ie, chi mae pobl Israel yn troi atyn nhw am arweiniad. Dych chi’n dweud wrthyn nhw, “Ewch draw i ddinas Calne, i weld sut mae pethau yno! Ewch yn eich blaen wedyn i Chamath fawr, ac i lawr i Gath y Philistiaid. Ydy pethau’n well arnyn nhw nag ar y ddwy wlad yma? Oes ganddyn nhw fwy o dir na chi?” Dych chi’n gwrthod derbyn fod dydd drwg yn dod. Dych chi’n gofyn am gyfnod o drais! Druan ohonoch chi, sy’n diogi ar eich soffas ifori moethus. Yn gorweddian ar glustogau cyfforddus, ac yn mwynhau gwledda ar gig oen a’r cig eidion gorau. Yn mwmian canu i gyfeiliant y nabl – a meddwl eich bod chi’n gerddorion gwych fel y Brenin Dafydd! Dych chi’n yfed gwin wrth y galwyni ac yn pampro eich cyrff gyda’r olew gorau! Ond dych chi’n poeni dim fod dinistr yn dod ar bobl Joseff! Felly, chi fydd y rhai cyntaf i gael eich caethgludo, a hynny’n fuan iawn! Bydd y gwledda a’r gorweddian yn dod i ben! Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn tyngu iddo’i hun: “Dw i’n casáu balchder gwlad Jacob, ac yn ffieiddio ei phlastai. Bydda i’n cyhoeddi y bydd dinas Samaria a’i phobl yn cael eu rhoi yn llaw’r gelyn.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn, y Duw hollbwerus. Os bydd deg o bobl yn dal yn fyw mewn tŷ, byddan nhw’n marw. Yna bydd perthynas yn dod i gasglu’r cyrff o’r tŷ – gyda’r bwriad o’u llosgi. A bydd yn galw ar rywun sy’n cuddio yng nghefn y tŷ, “Oes unrhyw un arall yn fyw ond ti?” ac yn cael yr ateb, “Na, neb.” Yna bydd yn dweud, “Ust! paid hyd yn oed â dweud enw’r ARGLWYDD”. Felly, mae’r ARGLWYDD yn rhoi’r gorchymyn: “Mae’r tai mawr crand i gael eu chwalu’n ulw, a’r tai cyffredin hefyd, yn ddarnau mân.” Ydy ceffylau’n gallu carlamu dros greigiau mawr? Ydy’n bosib ei aredig hefo ychen? Ac eto dych chi wedi troi cyfiawnder yn wenwyn marwol ac wedi gwneud yr hyn sy’n iawn yn beth chwerw. Dych chi mor falch eich bod chi wedi concro tref Lo-defâr, a meddech chi wedyn, “Dŷn ni wedi dal Carnaïm! Roedden ni’n rhy gryf iddyn nhw!” Ond gwylia di, wlad Israel, –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn, y Duw hollbwerus. Dw i’n codi cenedl i ymladd yn dy erbyn di. Bydd yn dy ormesu di o Fwlch Chamath yn y gogledd i Wadi’r Araba lawr yn y de!

Amos 6:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion, ac sydd yn ymddiried ym mynydd Samaria, y rhai a enwir yn bennaf o’r cenhedloedd, y rhai y daeth tŷ Israel atynt! Tramwywch i Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na’ch terfyn chwi? Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesáu eisteddle trais; Gorwedd y maent ar welyau ifori, ac ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr ŵyn o’r praidd, a’r lloi o ganol y cut; Y rhai a ddatganant gyda llais y nabl; dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd, megis Dafydd; Y rhai a yfant win mewn ffiolau, ac a ymirant â’r ennaint pennaf; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff. Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda’r cyntaf a ddygir yn gaeth; a gwledd y rhai a ymestynnant, a symudir. Tyngodd yr ARGLWYDD DDUW iddo ei hun, Ffiaidd gennyf odidowgrwydd Jacob, a chaseais ei balasau: am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas ac sydd ynddi, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd. A bydd, os gweddillir mewn un tŷ ddeg o ddynion, y byddant feirw. Ei ewythr a’i cyfyd i fyny, a’r hwn a’i llysg, i ddwyn yr esgyrn allan o’r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo wrth ystlysau y tŷ, A oes eto neb gyda thi? ac efe a ddywed, Nac oes: yna y dywed yntau, Taw; am na wasanaetha cofio enw yr ARGLWYDD. Oherwydd wele yr ARGLWYDD yn gorchymyn, ac efe a dery y tŷ mawr ag agennau, a’r tŷ bychan â holltau. A red meirch ar y graig? a ardd neb hi ag ychen? canys troesoch farn yn fustl, a ffrwyth cyfiawnder yn wermod. O chwi y rhai sydd yn llawenychu mewn peth diddim, yn dywedyd, Onid o’n nerth ein hun y cymerasom i ni gryfder? Ond wele, mi a gyfodaf i’ch erbyn chwi, tŷ Israel, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd, genedl; a hwy a’ch cystuddiant chwi, o’r ffordd yr ewch i Hamath, hyd afon y diffeithwch.