Amos 5:18-27
Amos 5:18-27 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Druan ohonoch chi! Chi sy’n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod! Sut allwch chi edrych ymlaen at y diwrnod hwnnw? Diwrnod tywyll fydd e, heb ddim golau o gwbl! Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lew ac yn sydyn mae arth yn dod i’w gyfarfod. Mae’n llwyddo i gyrraedd y tŷ’n ddiogel, ond yna’n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr! Felly bydd hi ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod – diwrnod tywyll fydd e, dim un golau! Ie, tywyllwch dudew heb lygedyn o olau! “Dw i’n casáu eich gwyliau crefyddol chi, ac yn eu diystyru nhw. Dydy’ch addoliad chi’n rhoi dim pleser i mi. Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i’w llosgi i mi, ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw. Gallwch offrymu eich anifeiliaid gorau i mi, ond fydda i’n cymryd dim sylw o gwbl! Stopiwch ddod yma i forio canu’ch emynau; does gen i ddim eisiau clywed sŵn eich nablau. Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo, a thegwch fel ffrwd nant sydd byth yn sychu. “Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, bobl Israel? A nawr mae’n well gynnoch chi gario eich ‘brenin’ Saccwth, a’ch delw o Caiwan – sef duwiau’r sêr dych chi wedi’u llunio i chi’ch hunain! Felly, bydda i’n eich gyrru chi’n gaethion i wlad sydd tu draw i Damascus.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn, sef yr un sy’n cael ei alw y Duw hollbwerus.
Amos 5:18-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwae y rhai sy'n dyheu am ddydd yr ARGLWYDD! Beth fydd dydd yr ARGLWYDD i chwi? Tywyllwch fydd, nid goleuni; fel pe bai dyn yn dianc rhag llew, ac arth yn ei gyfarfod; neu'n cyrraedd y tŷ ac yn rhoi ei law ar y pared, a neidr yn ei frathu. Onid tywyllwch fydd dydd yr ARGLWYDD, ac nid goleuni; caddug, heb lygedyn golau ynddo? “Yr wyf yn casáu, yr wyf yn ffieiddio eich gwyliau; nid oes imi bleser yn eich cymanfaoedd. Er ichwi aberthu imi boethoffrymau a bwydoffrymau, ni allaf eu derbyn; ac nid edrychaf ar eich heddoffrymau o'ch pasgedigion. Ewch â sŵn eich caneuon oddi wrthyf; ni wrandawaf ar gainc eich telynau. Ond llifed barn fel dyfroedd a chyfiawnder fel afon gref. “A ddaethoch ag aberthau ac offrymau i mi yn yr anialwch am ddeugain mlynedd, dŷ Israel? Fe gludwch ymaith eich delwau, a wnaethoch i chwi—eich duw Saccuth, a Caiwan eich seren-dduw— oherwydd caethgludaf chwi y tu hwnt i Ddamascus,” medd yr ARGLWYDD; Duw'r Lluoedd yw ei enw.
Amos 5:18-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr ARGLWYDD! beth yw hwnnw i chwi? tywyllwch, ac nid goleuni yw dydd yr ARGLWYDD. Megis pe ffoai gŵr rhag llew, ac arth yn cyfarfod ag ef; a myned i’r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a’i frathu o sarff. Oni bydd dydd yr ARGLWYDD yn dywyllwch, ac nid yn oleuni? yn dywyll iawn, ac heb lewyrch ynddo? Caseais a ffieiddiais eich gwyliau, ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd. Canys er i chwi offrymu i mi boethoffrymau, a’ch offrymau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt; ac nid edrychaf ar hedd-offrwm eich pasgedigion. Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau. Ond rheded barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref. A offrymasoch chwi i mi aberthau a bwyd-offrymau yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, tŷ Israel? Ond dygasoch babell eich Moloch a Chïwn, eich delwau, seren eich duw, a wnaethoch i chwi eich hunain. Am hynny y caethgludaf chwi i’r tu hwnt i Damascus, medd yr ARGLWYDD; DUW y lluoedd yw ei enw.