Amos 2:4-5
Amos 2:4-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Jwda, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddynt wrthod cyfraith yr ARGLWYDD, a pheidio â chadw ei ddeddfau, a'u denu ar gyfeiliorn gan y celwyddau a ddilynwyd gan eu hynafiaid, anfonaf dân ar Jwda, ac fe ddifa geyrydd Jerwsalem.”
Amos 2:4-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Jwda wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw. Maen nhw wedi troi’u cefnau ar gyfraith yr ARGLWYDD, a heb gadw’i orchmynion e. Maen nhw’n cael eu harwain ar gyfeiliorn gan y duwiau ffals oedd eu hynafiaid yn eu dilyn. Felly bydda i’n anfon tân i losgi Jwda, a dinistrio caerau amddiffynnol Jerwsalem.”
Amos 2:4-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr ARGLWYDD, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl. Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem.