Actau 9:26-28
Actau 9:26-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan gyrhaeddodd Saul Jerwsalem, ceisiodd fynd at y credinwyr yno, ond roedd ganddyn nhw ei ofn. Doedden nhw ddim yn credu ei fod wedi dod yn Gristion go iawn. Ond dyma Barnabas yn ei dderbyn, ac yn mynd ag e at yr apostolion. Dwedodd wrthyn nhw sut gwelodd Saul yr Arglwydd pan oedd yn teithio i Damascus, a beth oedd yr Arglwydd wedi’i ddweud wrtho. Hefyd dwedodd ei fod wedi pregethu am Iesu yn gwbl ddi-ofn pan oedd yn Damascus. Felly cafodd ei dderbyn gan yr apostolion, ac roedd yn mynd o gwmpas Jerwsalem yn gwbl agored yn dweud wrth bawb am yr Arglwydd Iesu.
Actau 9:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi iddo gyrraedd Jerwsalem ceisiodd ymuno â'r disgyblion; ond yr oedd ar bawb ei ofn, gan nad oeddent yn credu ei fod yn ddisgybl. Ond cymerodd Barnabas ef a mynd ag ef at yr apostolion, ac adroddodd wrthynt fel yr oedd wedi gweld yr Arglwydd ar y ffordd, ac iddo siarad ag ef, ac fel yr oedd wedi llefaru yn hy yn Namascus yn enw Iesu. Bu gyda hwy, yn mynd i mewn ac allan yn Jerwsalem
Actau 9:26-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Saul, wedi ei ddyfod i Jerwsalem, a geisiodd ymwasgu â’r disgyblion: ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod ef yn ddisgybl. Eithr Barnabas a’i cymerodd ef, ac a’i dug at yr apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan ohono ag ef, ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu. Ac yr oedd efe gyda hwynt, yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerwsalem.