Actau 9:10-19
Actau 9:10-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus o'r enw Ananias, a dywedodd yr Arglwydd wrtho ef mewn gweledigaeth, “Ananias.” Dywedodd yntau, “Dyma fi, Arglwydd.” Ac meddai'r Arglwydd wrtho, “Cod, a dos i'r stryd a elwir y Stryd Union, a gofyn yn nhŷ Jwdas am ddyn o Darsus o'r enw Saul; cei hyd iddo yno, yn gweddïo; ac y mae wedi gweld mewn gweledigaeth ddyn o'r enw Ananias yn dod i mewn ac yn rhoi ei ddwylo arno i roi ei olwg yn ôl iddo.” Atebodd Ananias, “Arglwydd, yr wyf wedi clywed gan lawer am y dyn hwn, faint o ddrwg y mae wedi ei wneud i'th saint di yn Jerwsalem. Yma hefyd y mae ganddo awdurdod oddi wrth y prif offeiriaid i ddal pawb sy'n galw ar dy enw di.” Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Dos di; llestr dewis i mi yw hwn, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, a cherbron plant Israel. Dangosaf fi iddo faint sy raid iddo'i ddioddef dros fy enw i.” Aeth Ananias ymaith ac i mewn i'r tŷ, a rhoddodd ei ddwylo arno a dweud, “Y brawd Saul, yr Arglwydd sydd wedi fy anfon—sef Iesu, yr un a ymddangosodd iti ar dy ffordd yma—er mwyn iti gael dy olwg yn ôl, a'th lenwi â'r Ysbryd Glân.” Ar unwaith syrthiodd rhywbeth fel cen oddi ar ei lygaid, a chafodd ei olwg yn ôl. Cododd, ac fe'i bedyddiwyd, a chymerodd luniaeth ac ymgryfhaodd. Bu gyda'r disgyblion oedd yn Namascus am rai dyddiau
Actau 9:10-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn byw yn Damascus roedd disgybl o’r enw Ananias oedd wedi cael gweledigaeth o’r Arglwydd yn galw arno – “Ananias!” “Ie, Arglwydd,” atebodd. A dyma’r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos i dŷ Jwdas yn Stryd Union a gofyn am ddyn o Tarsus o’r enw Saul. Mae yno’n gweddïo. Dw i wedi dangos iddo y bydd dyn o’r enw Ananias yn mynd ato a gosod ei ddwylo arno iddo gael ei olwg yn ôl.” “Ond Arglwydd,” meddai Ananias, “dw i wedi clywed llawer o hanesion am y dyn yma. Mae wedi gwneud pethau ofnadwy i dy bobl di yn Jerwsalem. Mae’r prif offeiriaid wedi rhoi awdurdod iddo ddod yma i arestio pawb sy’n credu ynot ti.” Ond meddai’r Arglwydd wrth Ananias, “Dos! Dyma’r dyn dw i wedi’i ddewis i ddweud amdana i wrth bobl o genhedloedd eraill a’u brenhinoedd yn ogystal ag wrth bobl Israel. Bydda i’n dangos iddo y bydd e’i hun yn dioddef llawer am fy nilyn i.” Felly dyma Ananias yn mynd. Aeth i mewn i’r tŷ, gosod ei ddwylo ar Saul a dweud wrtho, “Saul, frawd. Mae’r Arglwydd Iesu, wnaeth ymddangos i ti ar dy ffordd yma, wedi fy anfon i atat ti er mwyn i ti gael dy olwg yn ôl, a chei dy lenwi â’r Ysbryd Glân hefyd.” Yr eiliad honno dyma rywbeth tebyg i gen yn syrthio oddi ar lygaid Saul, ac roedd yn gallu gweld eto. Cododd ar ei draed a chafodd ei fedyddio. Wedyn cymerodd rywbeth i’w fwyta, a chael ei gryfder yn ôl.
Actau 9:10-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus, a’i enw Ananeias: a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananeias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol a elwir Union, a chais yn nhŷ Jwdas un a’i enw Saul, o Darsus: canys, wele, y mae yn gweddïo; Ac efe a welodd mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananeias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelai eilwaith. Yna yr atebodd Ananeias, O Arglwydd, mi a glywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint di yn Jerwsalem. Ac yma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr archoffeiriaid, i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Dos ymaith: canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel. Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef er mwyn fy enw i. Ac Ananeias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i’r tŷ; ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd a’m hanfonodd i, (Iesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost,) fel y gwelych drachefn, ac y’th lanwer â’r Ysbryd Glân. Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen: ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd. Ac wedi iddo gymryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyda’r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau.