Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 9:1-31

Actau 9:1-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn y cyfamser, roedd Saul yn dal i fynd o gwmpas yn bygwth lladd dilynwyr yr Arglwydd. Roedd wedi mynd at yr Archoffeiriad i ofyn am lythyrau i synagogau Damascus yn rhoi’r hawl iddo arestio unrhyw un oedd yn dilyn y Ffordd. Roedd ganddo awdurdod i gadw dynion a merched yn y ddalfa a mynd â nhw’n gaeth i Jerwsalem. Roedd yn agos at Damascus pan fflachiodd golau disglair o’r nefoedd o’i gwmpas. Syrthiodd ar lawr a chlywed llais yn dweud wrtho: “Saul? Saul? Pam wyt ti’n fy erlid i?” “Pwy wyt ti, syr?” gofynnodd Saul. “Iesu ydw i,” atebodd, “yr un rwyt ti’n ei erlid. Nawr cod ar dy draed a dos i mewn i’r ddinas. Cei di wybod yno beth mae’n rhaid i ti ei wneud.” Roedd y rhai oedd yn teithio gydag e’n sefyll yn fud; roedden nhw’n clywed y llais ond doedden nhw’n gweld neb. Cododd Saul ar ei draed, ond pan agorodd ei lygaid, doedd e ddim yn gallu gweld. Felly dyma nhw’n gafael yn ei law ac yn ei arwain i mewn i dre Damascus. Arhosodd yno am dri diwrnod. Roedd yn ddall ac yn gwrthod bwyta nac yfed dim. Yn byw yn Damascus roedd disgybl o’r enw Ananias oedd wedi cael gweledigaeth o’r Arglwydd yn galw arno – “Ananias!” “Ie, Arglwydd,” atebodd. A dyma’r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos i dŷ Jwdas yn Stryd Union a gofyn am ddyn o Tarsus o’r enw Saul. Mae yno’n gweddïo. Dw i wedi dangos iddo y bydd dyn o’r enw Ananias yn mynd ato a gosod ei ddwylo arno iddo gael ei olwg yn ôl.” “Ond Arglwydd,” meddai Ananias, “dw i wedi clywed llawer o hanesion am y dyn yma. Mae wedi gwneud pethau ofnadwy i dy bobl di yn Jerwsalem. Mae’r prif offeiriaid wedi rhoi awdurdod iddo ddod yma i arestio pawb sy’n credu ynot ti.” Ond meddai’r Arglwydd wrth Ananias, “Dos! Dyma’r dyn dw i wedi’i ddewis i ddweud amdana i wrth bobl o genhedloedd eraill a’u brenhinoedd yn ogystal ag wrth bobl Israel. Bydda i’n dangos iddo y bydd e’i hun yn dioddef llawer am fy nilyn i.” Felly dyma Ananias yn mynd. Aeth i mewn i’r tŷ, gosod ei ddwylo ar Saul a dweud wrtho, “Saul, frawd. Mae’r Arglwydd Iesu, wnaeth ymddangos i ti ar dy ffordd yma, wedi fy anfon i atat ti er mwyn i ti gael dy olwg yn ôl, a chei dy lenwi â’r Ysbryd Glân hefyd.” Yr eiliad honno dyma rywbeth tebyg i gen yn syrthio oddi ar lygaid Saul, ac roedd yn gallu gweld eto. Cododd ar ei draed a chafodd ei fedyddio. Wedyn cymerodd rywbeth i’w fwyta, a chael ei gryfder yn ôl. Arhosodd Saul gyda’r disgyblion yn Damascus am beth amser. Aeth ati ar unwaith i bregethu yn y synagogau mai Iesu ydy Mab Duw. Roedd pawb a’i clywodd wedi’u syfrdanu. “Onid dyma’r dyn wnaeth achosi’r fath drafferth i’r rhai yn Jerwsalem sy’n dilyn yr Iesu yna? Roedden ni’n meddwl ei fod wedi dod yma ar ran y prif offeiriaid i arestio’r bobl hynny a’u rhoi yn y carchar.” Roedd pregethu Saul yn mynd yn gryfach ac yn gryfach bob dydd, a doedd yr Iddewon yn Damascus ddim yn gallu dadlau yn ei erbyn wrth iddo brofi mai Iesu ydy’r Meseia. Felly ar ôl peth amser dyma’r arweinwyr Iddewig yn cynllwynio i’w ladd. Ond clywodd Saul am eu bwriad, a’r ffaith eu bod yn gwylio giatiau’r ddinas yn ofalus ddydd a nos er mwyn ei ddal a’i lofruddio. Felly dyma rhai o’r credinwyr yn ei ollwng i lawr mewn basged drwy agoriad yn wal y ddinas. Pan gyrhaeddodd Saul Jerwsalem, ceisiodd fynd at y credinwyr yno, ond roedd ganddyn nhw ei ofn. Doedden nhw ddim yn credu ei fod wedi dod yn Gristion go iawn. Ond dyma Barnabas yn ei dderbyn, ac yn mynd ag e at yr apostolion. Dwedodd wrthyn nhw sut gwelodd Saul yr Arglwydd pan oedd yn teithio i Damascus, a beth oedd yr Arglwydd wedi’i ddweud wrtho. Hefyd dwedodd ei fod wedi pregethu am Iesu yn gwbl ddi-ofn pan oedd yn Damascus. Felly cafodd ei dderbyn gan yr apostolion, ac roedd yn mynd o gwmpas Jerwsalem yn gwbl agored yn dweud wrth bawb am yr Arglwydd Iesu. Buodd yn siarad ac yn dadlau gyda rhyw Iddewon Groegaidd, ond y canlyniad oedd iddyn nhw benderfynu ei ladd. Pan glywodd y credinwyr am y peth, dyma nhw’n mynd â Saul i Cesarea, ac yna ei anfon yn ei flaen i Tarsus lle roedd ei gartref. Ar ôl hyn cafodd yr eglwys yn Jwdea, Galilea a Samaria gyfnod o dawelwch a llwyddiant – roedd ffydd y credinwyr yn cryfhau ac roedd eu niferoedd yn tyfu hefyd. Roedden nhw’n byw mewn ffordd oedd yn dangos eu bod yn ofni’r Arglwydd, a’r Ysbryd Glân yn eu hannog yn eu blaenau.

Actau 9:1-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd Saul yn dal i chwythu bygythion angheuol yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, ac fe aeth at yr archoffeiriad a gofyn iddo am lythyrau at y synagogau yn Namascus, fel os byddai'n cael hyd i rywrai o bobl y Ffordd, yn wŷr neu'n wragedd, y gallai eu dal a dod â hwy i Jerwsalem. Pan oedd ar ei daith ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn fflachiodd o'i amgylch oleuni o'r nef. Syrthiodd ar lawr, a chlywodd lais yn dweud wrtho, “Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?” Dywedodd yntau, “Pwy wyt ti, Arglwydd?” Ac ebe'r llais, “Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Ond cod, a dos i mewn i'r ddinas, ac fe ddywedir wrthyt beth sy raid iti ei wneud.” Yr oedd y dynion oedd yn cyd-deithio ag ef yn sefyll yn fud, yn clywed y llais ond heb weld neb. Cododd Saul oddi ar lawr, ond er bod ei lygaid yn agored ni allai weld dim. Arweiniasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus. Bu am dridiau heb weld, ac ni chymerodd na bwyd na diod. Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus o'r enw Ananias, a dywedodd yr Arglwydd wrtho ef mewn gweledigaeth, “Ananias.” Dywedodd yntau, “Dyma fi, Arglwydd.” Ac meddai'r Arglwydd wrtho, “Cod, a dos i'r stryd a elwir y Stryd Union, a gofyn yn nhŷ Jwdas am ddyn o Darsus o'r enw Saul; cei hyd iddo yno, yn gweddïo; ac y mae wedi gweld mewn gweledigaeth ddyn o'r enw Ananias yn dod i mewn ac yn rhoi ei ddwylo arno i roi ei olwg yn ôl iddo.” Atebodd Ananias, “Arglwydd, yr wyf wedi clywed gan lawer am y dyn hwn, faint o ddrwg y mae wedi ei wneud i'th saint di yn Jerwsalem. Yma hefyd y mae ganddo awdurdod oddi wrth y prif offeiriaid i ddal pawb sy'n galw ar dy enw di.” Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Dos di; llestr dewis i mi yw hwn, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, a cherbron plant Israel. Dangosaf fi iddo faint sy raid iddo'i ddioddef dros fy enw i.” Aeth Ananias ymaith ac i mewn i'r tŷ, a rhoddodd ei ddwylo arno a dweud, “Y brawd Saul, yr Arglwydd sydd wedi fy anfon—sef Iesu, yr un a ymddangosodd iti ar dy ffordd yma—er mwyn iti gael dy olwg yn ôl, a'th lenwi â'r Ysbryd Glân.” Ar unwaith syrthiodd rhywbeth fel cen oddi ar ei lygaid, a chafodd ei olwg yn ôl. Cododd, ac fe'i bedyddiwyd, a chymerodd luniaeth ac ymgryfhaodd. Bu gyda'r disgyblion oedd yn Namascus am rai dyddiau, ac ar unwaith dechreuodd bregethu Iesu yn y synagogau, a chyhoeddi mai Mab Duw oedd ef. Yr oedd pawb oedd yn ei glywed yn rhyfeddu. “Onid dyma'r dyn,” meddent, “a wnaeth ddifrod yn Jerwsalem ar y rhai sy'n galw ar yr enw hwn? Ac onid i hyn yr oedd wedi dod yma, sef i fynd â hwy yn rhwym at y prif offeiriaid?” Ond yr oedd Saul yn ymrymuso fwyfwy, ac yn drysu'r Iddewon oedd yn byw yn Namascus wrth brofi mai Iesu oedd y Meseia. Fel yr oedd dyddiau lawer yn mynd heibio, cynllwyniodd yr Iddewon i'w ladd. Ond daeth eu cynllwyn yn hysbys i Saul. Yr oeddent hefyd yn gwylio'r pyrth ddydd a nos er mwyn ei ladd ef. Ond cymerodd ei ddisgyblion ef yn y nos a'i ollwng i lawr y mur, gan ei ostwng mewn basged. Wedi iddo gyrraedd Jerwsalem ceisiodd ymuno â'r disgyblion; ond yr oedd ar bawb ei ofn, gan nad oeddent yn credu ei fod yn ddisgybl. Ond cymerodd Barnabas ef a mynd ag ef at yr apostolion, ac adroddodd wrthynt fel yr oedd wedi gweld yr Arglwydd ar y ffordd, ac iddo siarad ag ef, ac fel yr oedd wedi llefaru yn hy yn Namascus yn enw Iesu. Bu gyda hwy, yn mynd i mewn ac allan yn Jerwsalem, gan lefaru'n hy yn enw yr Arglwydd; byddai'n siarad ac yn dadlau â'r Iddewon Groeg eu hiaith, ond yr oeddent hwy'n ceisio'i ladd ef. Pan ddaeth y credinwyr i wybod, aethant ag ef i lawr i Gesarea, a'i anfon ymaith i Darsus. Yr oedd yr eglwys yn awr, drwy holl Jwdea a Galilea a Samaria, yn cael heddwch. Yr oedd yn cryfhau, a thrwy rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, yn mynd ar gynnydd.

Actau 9:1-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Saul eto yn chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, a aeth at yr archoffeiriad, Ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus, at y synagogau; fel os câi efe neb o’r ffordd hon, na gwŷr na gwragedd, y gallai efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerwsalem. Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef. Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Yntau a ddywedodd, Pwy wyt ti, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau. Yntau gan grynu, ac â braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. A’r gwŷr oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais, ac heb weled neb. A Saul a gyfododd oddi ar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai efe neb: eithr hwy a’i tywysasant ef erbyn ei law, ac a’i dygasant ef i mewn i Ddamascus. Ac efe a fu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed. Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus, a’i enw Ananeias: a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananeias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol a elwir Union, a chais yn nhŷ Jwdas un a’i enw Saul, o Darsus: canys, wele, y mae yn gweddïo; Ac efe a welodd mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananeias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelai eilwaith. Yna yr atebodd Ananeias, O Arglwydd, mi a glywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint di yn Jerwsalem. Ac yma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr archoffeiriaid, i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Dos ymaith: canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel. Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef er mwyn fy enw i. Ac Ananeias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i’r tŷ; ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd a’m hanfonodd i, (Iesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost,) fel y gwelych drachefn, ac y’th lanwer â’r Ysbryd Glân. Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen: ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd. Ac wedi iddo gymryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyda’r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau. Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mab Duw. A phawb a’r a’i clybu ef, a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth yma er mwyn hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid? Eithr Saul a gynyddodd fwyfwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Namascus, gan gadarnhau mai hwn yw y Crist. Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cydymgynghorodd yr Iddewon i’w ladd ef. Eithr eu cydfwriad hwy a wybuwyd gan Saul: a hwy a ddisgwyliasant y pyrth ddydd a nos, i’w ladd ef. Yna y disgyblion a’i cymerasant ef o hyd nos, ac a’i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged. A Saul, wedi ei ddyfod i Jerwsalem, a geisiodd ymwasgu â’r disgyblion: ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod ef yn ddisgybl. Eithr Barnabas a’i cymerodd ef, ac a’i dug at yr apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan ohono ag ef, ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu. Ac yr oedd efe gyda hwynt, yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerwsalem. A chan fod yn hy yn enw yr Arglwydd Iesu, efe a lefarodd ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid; a hwy a geisiasant ei ladd ef. A’r brodyr, pan wybuant, a’i dygasant ef i waered i Cesarea, ac a’i hanfonasant ef ymaith i Darsus. Yna yr eglwysi trwy holl Jwdea, a Galilea, a Samaria, a gawsant heddwch, ac a adeiladwyd; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, hwy a amlhawyd.