Actau 8:4-25
Actau 8:4-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y credinwyr oedd wedi’u gwasgaru yn dweud wrth bobl beth oedd y newyddion da ble bynnag oedden nhw’n mynd. Er enghraifft, aeth Philip i dref yn Samaria a chyhoeddi’r neges am y Meseia yno. Roedd tyrfaoedd o bobl yn dod i wrando ar beth roedd Philip yn ei ddweud, wrth weld yr arwyddion gwyrthiol roedd e’n eu gwneud. Roedd ysbrydion drwg yn dod allan o lawer o bobl gan sgrechian, ac roedd llawer o bobl oedd wedi’u parlysu neu’n gloff yn cael iachâd. Felly roedd llawenydd anhygoel yn y dre. Yn y dre honno roedd dewin o’r enw Simon wedi bod yn ymarfer ei swynion ers blynyddoedd, ac yn gwneud pethau oedd yn rhyfeddu pawb yn Samaria. Roedd yn honni ei fod yn rhywun pwysig dros ben. Roedd pawb, o’r ifancaf i’r hynaf, yn sôn amdano ac yn dweud fod nerth y duw roedden nhw’n ei alw ‘Yr Un Pwerus’ ar waith ynddo. Roedd ganddo lawer o ddilynwyr, a phobl wedi cael eu syfrdanu ers blynyddoedd lawer gan ei ddewiniaeth. Ond nawr, dyma’r bobl yn dod i gredu’r newyddion da oedd Philip yn ei gyhoeddi am Dduw yn teyrnasu ac am enw Iesu y Meseia. Cafodd nifer fawr o ddynion a merched eu bedyddio. Yna credodd Simon ei hun a chael ei fedyddio. Ac roedd yn dilyn Philip i bobman, wedi’i syfrdanu’n llwyr gan y gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos mor glir fod Duw gyda Philip. Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod pobl yn Samaria wedi credu’r neges am Dduw, dyma nhw’n anfon Pedr ac Ioan yno. Yn syth ar ôl cyrraedd, dyma nhw’n gweddïo dros y credinwyr newydd yma – ar iddyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân, achos doedd yr Ysbryd Glân ddim wedi disgyn arnyn nhw eto. Y cwbl oedd wedi digwydd oedd eu bod wedi cael eu bedyddio fel arwydd eu bod nhw’n perthyn i’r Arglwydd Iesu. Pan osododd Pedr ac Ioan eu dwylo arnyn nhw, dyma nhw’n derbyn yr Ysbryd Glân. Pan welodd Simon fod yr Ysbryd Glân yn dod pan oedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth. “Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân,” meddai. Ond dyma Pedr yn ei ateb, “Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw! Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn. Tro dy gefn ar y drygioni yma a gweddïa ar yr Arglwydd. Falle y gwnaiff faddau i ti am feddwl y fath beth. Rwyt ti’n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau.” Meddai Simon, “Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti’n ei ddweud yn digwydd i mi.” Ar ôl tystiolaethu a chyhoeddi neges Duw yn Samaria, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl i Jerwsalem. Ond ar eu ffordd dyma nhw’n galw yn nifer o bentrefi’r Samariaid i gyhoeddi’r newyddion da.
Actau 8:4-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am y rhai a wasgarwyd, teithiasant gan bregethu'r gair. Aeth Philip i lawr i'r ddinas yn Samaria, a dechreuodd gyhoeddi'r Meseia iddynt. Yr oedd y tyrfaoedd yn dal yn unfryd ar eiriau Philip, wrth glywed a gweld yr arwyddion yr oedd yn eu gwneud; oherwydd yr oedd ysbrydion aflan yn dod allan o lawer oedd wedi eu meddiannu ganddynt, gan weiddi â llais uchel, ac iachawyd llawer o rai wedi eu parlysu ac o rai cloff. A bu llawenydd mawr yn y ddinas honno. Yr oedd rhyw ŵr o'r enw Simon eisoes yn y ddinas yn dewino ac yn synnu cenedl Samaria. Yr oedd yn dweud ei fod yn rhywun mawr, ac yr oedd pawb, o fawr i fân, yn dal sylw arno ac yn dweud, “Hwn yw'r gallu dwyfol a elwir y Gallu Mawr.” Yr oeddent yn dal sylw arno am ei fod ers cryn amser yn eu synnu â'i ddewiniaeth. Ond wedi iddynt gredu Philip a'i newydd da am deyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, dechreuwyd eu bedyddio hwy, yn wŷr a gwragedd. Credodd Simon ei hun hefyd, ac wedi ei fedyddio yr oedd yn glynu'n ddyfal wrth Philip; wrth weld arwyddion a gweithredoedd nerthol yn cael eu cyflawni, yr oedd yn synnu. Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod Samaria wedi derbyn gair Duw, anfonasant atynt Pedr ac Ioan, ac wedi iddynt hwy ddod i lawr yno, gweddïasant drostynt ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân, oherwydd nid oedd eto wedi disgyn ar neb ohonynt, dim ond eu bod wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu. Yna rhoes Pedr ac Ioan eu dwylo arnynt, a derbyniasant yr Ysbryd Glân. Pan welodd Simon mai trwy arddodiad dwylo'r apostolion y rhoddid yr Ysbryd, cynigiodd arian iddynt, a dweud, “Rhowch yr awdurdod yma i minnau, fel y bydd i bwy bynnag y rhof fy nwylo arno dderbyn yr Ysbryd Glân.” Ond dywedodd Pedr wrtho, “Melltith arnat ti a'th arian, am iti feddwl meddiannu rhodd Duw trwy dalu amdani! Nid oes iti ran na chyfran yn hyn o beth, oblegid nid yw dy galon yn uniawn yng ngolwg Duw. Felly edifarha am y drygioni hwn o'r eiddot, ac erfyn ar yr Arglwydd, i weld a faddeuir i ti feddylfryd dy galon, oherwydd rwy'n gweld dy fod yn llawn chwerwder ac yn gaeth i ddrygioni.” Atebodd Simon, “Gweddïwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddaw arnaf ddim o'r pethau a ddywedsoch.” Wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, cychwynasant hwythau yn ôl i Jerwsalem, a chyhoeddi'r newydd da i lawer o bentrefi'r Samariaid.
Actau 8:4-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r rhai a wasgarasid a dramwyasant gan bregethu y gair. Yna Philip a aeth i waered i ddinas Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt. A’r bobl yn gytûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed ohonynt, a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur. Canys ysbrydion aflan, gan lefain â llef uchel, a aethant allan o lawer a berchenogid ganddynt; a llawer yn gleifion o’r parlys, ac yn gloffion, a iachawyd. Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno. Eithr rhyw ŵr a’i enw Simon, oedd o’r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr: Ar yr hwn yr oedd pawb, o’r lleiaf hyd y mwyaf, yn gwrando, gan ddywedyd, Mawr allu Duw yw hwn. Ac yr oeddynt â’u coel arno, oherwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion. Eithr pan gredasant i Philip, yn pregethu’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd, yn wŷr ac yn wragedd. A Simon yntau hefyd a gredodd; ac wedi ei fedyddio, a lynodd wrth Philip: a synnodd arno wrth weled yr arwyddion a’r nerthoedd mawrion a wneid. A phan glybu’r apostolion yn Jerwsalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant atynt Pedr ac Ioan: Y rhai wedi eu dyfod i waered, a weddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân. (Canys eto nid oedd efe wedi syrthio ar neb ohonynt; ond yr oeddynt yn unig wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu.) Yna hwy a ddodasant eu dwylo arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Ysbryd Glân. A phan welodd Simon mai trwy osodiad dwylo’r apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glân, efe a gynigiodd iddynt arian, Gan ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylo, y derbynio efe yr Ysbryd Glân. Eithr Pedr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am i ti dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian. Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn: canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw. Edifarha gan hynny am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw, a faddeuir i ti feddylfryd dy galon. Canys mi a’th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd. A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof fi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o’r pethau a ddywedasoch. Ac wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a bregethasant yr efengyl yn llawer o bentrefi’r Samariaid.