Actau 8:32-35
Actau 8:32-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r adran o’r ysgrifau sanctaidd roedd yr eunuch yn ei ddarllen: “Cafodd ei arwain fel dafad i’r lladd-dy. Yn union fel mae oen yn dawel pan mae’n cael ei gneifio, wnaeth e ddweud dim. Cafodd ei gam-drin heb achos llys teg. Sut mae’n bosib sôn am ddisgynyddion iddo? Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw.” A dyma’r eunuch yn gofyn i Philip, “Dwed wrtho i, ydy’r proffwyd yn sôn amdano’i hun neu am rywun arall?” Felly dyma Philip yn dechrau gyda’r rhan honno o’r ysgrifau sanctaidd, ac yn mynd ati i ddweud y newyddion da am Iesu wrtho.
Actau 8:32-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A hon oedd yr adran o'r Ysgrythur yr oedd yn ei darllen: “Arweiniwyd ef fel dafad i'r lladdfa, ac fel y bydd oen yn ddistaw yn llaw ei gneifiwr, felly nid yw'n agor ei enau. Yn ei ddarostyngiad gomeddwyd iddo farn. Pwy all draethu am ei ddisgynyddion? Oherwydd cymerir ei fywyd oddi ar y ddaear.” Meddai'r eunuch wrth Philip, “Dywed i mi, am bwy y mae'r proffwyd yn dweud hyn? Ai amdano'i hun, ai am rywun arall?” Yna agorodd Philip ei enau, a chan ddechrau o'r rhan hon o'r Ysgrythur traethodd y newydd da am Iesu iddo.
Actau 8:32-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r lle o’r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen, oedd hwn, Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef; ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau: Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymaith: eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaear. A’r eunuch a atebodd Philip, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae’r proffwyd yn dywedyd hyn? amdano’i hun, ai am ryw un arall? A Philip a agorodd ei enau, ac a ddechreuodd ar yr ysgrythur honno, ac a bregethodd iddo yr Iesu.