Actau 8:26-34
Actau 8:26-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Philip wedi cael neges gan angel yr Arglwydd yn dweud wrtho: “Dos i lawr i’r de i ffordd yr anialwch, sef y ffordd o Jerwsalem i Gasa.” Aeth Philip ar unwaith, a phan oedd ar ei ffordd dyma fe’n dod ar draws eunuch oedd yn swyddog pwysig yn llywodraeth y Candace, sef Brenhines Ethiopia – fe oedd pennaeth ei thrysorlys. Roedd wedi bod yn Jerwsalem yn addoli Duw, ac roedd yn darllen llyfr proffwydoliaeth Eseia wrth deithio yn ei gerbyd ar ei ffordd adre. Dyma’r Ysbryd Glân yn dweud wrth Philip, “Dos a rheda wrth ymyl y cerbyd acw.” Felly dyma Philip yn rhedeg at y cerbyd, ac roedd yn clywed y dyn yn darllen o lyfr proffwydoliaeth Eseia. Felly gofynnodd Philip iddo, “Wyt ti’n deall beth rwyt ti’n ei ddarllen?” “Sut alla i ddeall heb i rywun ei esbonio i mi?” meddai’r dyn. Felly gofynnodd i Philip fynd i eistedd yn y cerbyd gydag e. Dyma’r adran o’r ysgrifau sanctaidd roedd yr eunuch yn ei ddarllen: “Cafodd ei arwain fel dafad i’r lladd-dy. Yn union fel mae oen yn dawel pan mae’n cael ei gneifio, wnaeth e ddweud dim. Cafodd ei gam-drin heb achos llys teg. Sut mae’n bosib sôn am ddisgynyddion iddo? Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw.” A dyma’r eunuch yn gofyn i Philip, “Dwed wrtho i, ydy’r proffwyd yn sôn amdano’i hun neu am rywun arall?”
Actau 8:26-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Llefarodd angel yr Arglwydd wrth Philip: “Cod,” meddai, “a chymer daith tua'r de, i'r ffordd sy'n mynd i lawr o Jerwsalem i Gasa.” Ffordd anial yw hon. Cododd yntau ac aeth. A dyma ŵr o Ethiop, eunuch, swyddog uchel i Candace brenhines yr Ethiopiaid, ac yn ben ar ei holl drysor hi; yr oedd hwn wedi dod i Jerwsalem i addoli, ac yr oedd yn dychwelyd ac yn eistedd yn ei gerbyd, yn darllen y proffwyd Eseia. Dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, “Dos a glŷn wrth y cerbyd yna.” Rhedodd Philip ato a chlywodd ef yn darllen y proffwyd Eseia, ac meddai, “A wyt ti'n deall, tybed, beth yr wyt yn ei ddarllen?” Meddai yntau, “Wel, sut y gallwn i, heb i rywun fy nghyfarwyddo?” Gwahoddodd Philip i ddod i fyny ato ac eistedd gydag ef. A hon oedd yr adran o'r Ysgrythur yr oedd yn ei darllen: “Arweiniwyd ef fel dafad i'r lladdfa, ac fel y bydd oen yn ddistaw yn llaw ei gneifiwr, felly nid yw'n agor ei enau. Yn ei ddarostyngiad gomeddwyd iddo farn. Pwy all draethu am ei ddisgynyddion? Oherwydd cymerir ei fywyd oddi ar y ddaear.” Meddai'r eunuch wrth Philip, “Dywed i mi, am bwy y mae'r proffwyd yn dweud hyn? Ai amdano'i hun, ai am rywun arall?”
Actau 8:26-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua’r deau, i’r ffordd sydd yn myned i waered o Jerwsalem i Gasa, yr hon sydd anghyfannedd. Ac efe a gyfododd, ac a aeth. Ac wele, gŵr o Ethiopia, eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, yr hwn a ddaethai i Jerwsalem i addoli; Ac oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllen y proffwyd Eseias. A dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, Dos yn nes, a glŷn wrth y cerbyd yma. A Philip a redodd ato, ac a’i clybu ef yn darllen y proffwyd Eseias; ac a ddywedodd, A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fyny, ac eistedd gydag ef. A’r lle o’r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen, oedd hwn, Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef; ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau: Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymaith: eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaear. A’r eunuch a atebodd Philip, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae’r proffwyd yn dywedyd hyn? amdano’i hun, ai am ryw un arall?