Actau 7:54-60
Actau 7:54-60 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Roedd yr hyn ddwedodd Steffan wedi gwneud yr arweinwyr Iddewig yn wyllt gandryll. Dyma nhw’n troi’n fygythiol, ond roedd Steffan yn llawn o’r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw, a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde. “Edrychwch!” meddai, “dw i’n gweld y nefoedd ar agor! Mae Mab y Dyn wedi’i anrhydeddu – mae’n sefyll ar ochr dde Duw.” Dyma nhw’n gwrthod gwrando ar ddim mwy, a chan weiddi nerth eu pennau dyma nhw’n rhuthro ymlaen i ymosod arno. Ar ôl ei lusgo allan o’r ddinas dyma nhw’n dechrau taflu cerrig ato i’w labyddio i farwolaeth. Roedd y rhai oedd wedi tystio yn ei erbyn wedi tynnu eu mentyll, a’u rhoi yng ngofal dyn ifanc o’r enw Saul. Wrth iddyn nhw daflu cerrig ato i’w ladd, roedd Steffan yn gweddïo, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd i.” Yna syrthiodd ar ei liniau a gweiddi’n uchel, “Arglwydd, paid dal nhw’n gyfrifol am y pechod yma.” Ac ar ôl dweud hynny, buodd farw.
Actau 7:54-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wrth glywed y pethau hyn aethant yn ffyrnig yn eu calonnau, ac ysgyrnygu eu dannedd arno. Yn llawn o'r Ysbryd Glân, syllodd Steffan tua'r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu'n sefyll ar ddeheulaw Duw, a dywedodd, “Edrychwch, rwy'n gweld y nefoedd yn agored, a Mab y Dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.” Rhoesant hwythau waedd uchel, a chau eu clustiau, a rhuthro'n unfryd arno, a'i fwrw allan o'r ddinas, a mynd ati i'w labyddio. Dododd y tystion eu dillad wrth draed dyn ifanc o'r enw Saul. Ac wrth iddynt ei labyddio, yr oedd Steffan yn galw, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.” Yna penliniodd, a gwaeddodd â llais uchel, “Arglwydd, paid â dal y pechod hwn yn eu herbyn.” Ac wedi dweud hynny, fe hunodd.
Actau 7:54-60 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan glywsant hwy’r pethau hyn, hwy a ffromasant yn eu calonnau, ac a ysgyrnygasant ddannedd arno. Ac efe, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a edrychodd yn ddyfal tua’r nef; ac a welodd ogoniant Duw, a’r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw. Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw. Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno, Ac a’i bwriasant allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant: a’r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul. A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd. Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.