Actau 7:44-60
Actau 7:44-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Yr oedd pabell y dystiolaeth gan ein hynafiaid yn yr anialwch, fel y gorchmynnodd yr hwn a lefarodd wrth Moses ei fod i'w llunio yn ôl y patrwm yr oedd wedi ei weld. Ac wedi ei derbyn yn eu tro, daeth ein hynafiaid â hi yma gyda Josua, wrth iddynt oresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o'u blaenau. Ac felly y bu hyd ddyddiau Dafydd. Cafodd ef ffafr gerbron Duw, a deisyfodd am gael tabernacl i dŷ Jacob. Eithr Solomon oedd yr un a adeiladodd dŷ iddo. Ond nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn tai o waith llaw; fel y mae'r proffwyd yn dweud: “ ‘Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa fath dŷ a adeiladwch imi, medd yr Arglwydd; ble fydd fy ngorffwysfa? Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?’ “Chwi rai gwargaled a dienwaededig o galon a chlust, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu'r Ysbryd Glân; fel eich hynafiaid, felly chwithau. P'run o'r proffwydi na fu'ch hynafiaid yn ei erlid? Ie, lladdasant y rhai a ragfynegodd ddyfodiad yr Un Cyfiawn. A chwithau yn awr, bradwyr a llofruddion fuoch iddo ef, chwi y rhai a dderbyniodd y Gyfraith yn ôl cyfarwyddyd angylion, ac eto ni chadwasoch mohoni.” Wrth glywed y pethau hyn aethant yn ffyrnig yn eu calonnau, ac ysgyrnygu eu dannedd arno. Yn llawn o'r Ysbryd Glân, syllodd Steffan tua'r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu'n sefyll ar ddeheulaw Duw, a dywedodd, “Edrychwch, rwy'n gweld y nefoedd yn agored, a Mab y Dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.” Rhoesant hwythau waedd uchel, a chau eu clustiau, a rhuthro'n unfryd arno, a'i fwrw allan o'r ddinas, a mynd ati i'w labyddio. Dododd y tystion eu dillad wrth draed dyn ifanc o'r enw Saul. Ac wrth iddynt ei labyddio, yr oedd Steffan yn galw, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.” Yna penliniodd, a gwaeddodd â llais uchel, “Arglwydd, paid â dal y pechod hwn yn eu herbyn.” Ac wedi dweud hynny, fe hunodd.
Actau 7:44-60 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Roedd ‘pabell y dystiolaeth’ gyda’n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi’i ddangos i Moses. Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o’r wlad yma gan Dduw, dyma nhw’n mynd â’r babell gyda nhw. Ac roedd hi’n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd. “Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob. Ond Solomon oedd yr un wnaeth adeiladu’r deml. Ond wedyn, dydy’r Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi’u codi gan ddynion! Yn union fel mae’r proffwyd yn dweud: ‘Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a’r ddaear yn stôl i mi orffwys fy nhraed arni. Allech chi adeiladu teml fel yna i mi? meddai’r Arglwydd. Ble dych chi’n mynd i’w roi i mi i orffwys? Onid fi sydd wedi creu popeth sy’n bodoli?’ “Dych chi mor benstiff! Dych chi fel y paganiaid – yn ystyfnig a byddar! Dych chi’n union yr un fath â’ch hynafiaid – byth yn gwrando ar yr Ysbryd Glân! Fuodd yna unrhyw broffwyd gafodd mo’i erlid gan eich cyndeidiau? Nhw lofruddiodd hyd yn oed y rhai broffwydodd fod yr Un Cyfiawn yn dod – sef y Meseia. A dych chi nawr wedi’i fradychu a’i ladd e! Dych chi wedi gwrthod ufuddhau i Gyfraith Duw, a chithau wedi’i derbyn hi gan angylion!” Roedd yr hyn ddwedodd Steffan wedi gwneud yr arweinwyr Iddewig yn wyllt gandryll. Dyma nhw’n troi’n fygythiol, ond roedd Steffan yn llawn o’r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw, a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde. “Edrychwch!” meddai, “dw i’n gweld y nefoedd ar agor! Mae Mab y Dyn wedi’i anrhydeddu – mae’n sefyll ar ochr dde Duw.” Dyma nhw’n gwrthod gwrando ar ddim mwy, a chan weiddi nerth eu pennau dyma nhw’n rhuthro ymlaen i ymosod arno. Ar ôl ei lusgo allan o’r ddinas dyma nhw’n dechrau taflu cerrig ato i’w labyddio i farwolaeth. Roedd y rhai oedd wedi tystio yn ei erbyn wedi tynnu eu mentyll, a’u rhoi yng ngofal dyn ifanc o’r enw Saul. Wrth iddyn nhw daflu cerrig ato i’w ladd, roedd Steffan yn gweddïo, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd i.” Yna syrthiodd ar ei liniau a gweiddi’n uchel, “Arglwydd, paid dal nhw’n gyfrifol am y pechod yma.” Ac ar ôl dweud hynny, buodd farw.
Actau 7:44-60 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai. Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymryd, a’i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd; Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob. Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef. Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd, Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i’m gorffwysfa i? Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll? Chwi rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu’r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau. Pa un o’r proffwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i’r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion: Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion, ac nis cadwasoch. A phan glywsant hwy’r pethau hyn, hwy a ffromasant yn eu calonnau, ac a ysgyrnygasant ddannedd arno. Ac efe, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a edrychodd yn ddyfal tua’r nef; ac a welodd ogoniant Duw, a’r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw. Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw. Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno, Ac a’i bwriasant allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant: a’r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul. A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd. Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.