Actau 7:44-50
Actau 7:44-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Yr oedd pabell y dystiolaeth gan ein hynafiaid yn yr anialwch, fel y gorchmynnodd yr hwn a lefarodd wrth Moses ei fod i'w llunio yn ôl y patrwm yr oedd wedi ei weld. Ac wedi ei derbyn yn eu tro, daeth ein hynafiaid â hi yma gyda Josua, wrth iddynt oresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o'u blaenau. Ac felly y bu hyd ddyddiau Dafydd. Cafodd ef ffafr gerbron Duw, a deisyfodd am gael tabernacl i dŷ Jacob. Eithr Solomon oedd yr un a adeiladodd dŷ iddo. Ond nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn tai o waith llaw; fel y mae'r proffwyd yn dweud: “ ‘Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa fath dŷ a adeiladwch imi, medd yr Arglwydd; ble fydd fy ngorffwysfa? Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?’
Actau 7:44-50 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Roedd ‘pabell y dystiolaeth’ gyda’n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi’i ddangos i Moses. Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o’r wlad yma gan Dduw, dyma nhw’n mynd â’r babell gyda nhw. Ac roedd hi’n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd. “Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob. Ond Solomon oedd yr un wnaeth adeiladu’r deml. Ond wedyn, dydy’r Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi’u codi gan ddynion! Yn union fel mae’r proffwyd yn dweud: ‘Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a’r ddaear yn stôl i mi orffwys fy nhraed arni. Allech chi adeiladu teml fel yna i mi? meddai’r Arglwydd. Ble dych chi’n mynd i’w roi i mi i orffwys? Onid fi sydd wedi creu popeth sy’n bodoli?’
Actau 7:44-50 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai. Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymryd, a’i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd; Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob. Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef. Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd, Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i’m gorffwysfa i? Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll?