Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 7:17-35

Actau 7:17-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Wrth i’r amser agosáu i Dduw wneud yr hyn oedd wedi’i addo i Abraham, roedd nifer ein pobl ni yn yr Aifft wedi tyfu’n fawr. Erbyn hynny, roedd brenin newydd yn yr Aifft – un oedd yn gwybod dim byd am Joseff . Buodd hwnnw’n gas iawn i’n pobl ni, a’u gorfodi nhw i adael i’w babis newydd eu geni farw. “Dyna pryd cafodd Moses ei eni. Doedd hwn ddim yn blentyn cyffredin! Roedd ei rieni wedi’i fagu o’r golwg yn eu cartref am dri mis. Ond pan gafodd ei adael allan, dyma ferch y Pharo yn dod o hyd iddo, ac yn ei gymryd a’i fagu fel petai’n blentyn iddi hi ei hun. Felly cafodd Moses yr addysg orau yn yr Aifft; roedd yn arweinydd galluog iawn, ac yn llwyddo beth bynnag roedd e’n wneud. “Pan oedd yn bedwar deg mlwydd oed, penderfynodd fynd i ymweld â’i bobl ei hun, sef pobl Israel. Dyna pryd y gwelodd un ohonyn nhw yn cael ei gam-drin gan ryw Eifftiwr. Ymyrrodd Moses i’w amddiffyn a lladd yr Eifftiwr. Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi’i anfon i’w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim. Y diwrnod wedyn gwelodd ddau o bobl Israel yn ymladd â’i gilydd. Ymyrrodd eto, a cheisio eu cael i gymodi. ‘Dych chi’n frodyr i’ch gilydd ffrindiau! Pam dych chi’n gwneud hyn?’ “Ond dyma’r dyn oedd ar fai yn gwthio Moses o’r ffordd ac yn dweud wrtho, ‘Pwy sydd wedi rhoi’r hawl i ti ein rheoli ni a’n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna ddoe?’ Clywed hynny wnaeth i Moses ddianc o’r wlad. Aeth i Midian. Er ei fod yn ddieithryn yno, setlodd i lawr a chafodd dau fab eu geni iddo. “Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr anialwch wrth ymyl Mynydd Sinai, dyma angel yn ymddangos i Moses yng nghanol fflamau perth oedd ar dân. Doedd ganddo ddim syniad beth oedd yn ei weld. Wrth gamu ymlaen i weld yn agosach, clywodd lais yr Arglwydd yn dweud, ‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’ Erbyn hyn roedd Moses yn crynu drwyddo gan ofn, a ddim yn meiddio edrych ar yr hyn oedd o’i flaen. Ond dyma’r Arglwydd yn dweud wrtho, ‘Tynna dy sandalau; rwyt ti’n sefyll ar dir cysegredig. Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i’n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi’u clywed nhw’n griddfan a dw i’n mynd i’w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i’n mynd i dy anfon di yn ôl i’r Aifft.’ “Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi’i wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi’r hawl i ti ein rheoli ni a’n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i’w harwain nhw a’u hachub nhw!

Actau 7:17-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Fel yr oedd yr amser yn agosáu i gyflawni'r addewid yr oedd Duw wedi ei rhoi i Abraham, cynyddodd y bobl a lluosogi yn yr Aifft, nes i frenin gwahanol godi ar yr Aifft, un na wyddai ddim am Joseff. Bu hwn yn ddichellgar wrth ein cenedl ni, gan gam-drin ein hynafiaid, a pheri bwrw eu babanod allan fel na chedwid mohonynt yn fyw. Y pryd hwnnw y ganwyd Moses, ac yr oedd yn blentyn cymeradwy yng ngolwg Duw. Magwyd ef am dri mis yn nhŷ ei dad, a phan fwriwyd ef allan, cymerodd merch Pharo ef ati, a'i fagu yn fab iddi hi ei hun. Hyfforddwyd Moses yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, ac yr oedd yn nerthol yn ei eiriau a'i weithredoedd. “Yn ystod ei ddeugeinfed flwyddyn, cododd awydd arno i ymweld â'i gyd-genedl, plant Israel. Pan welodd un ohonynt yn cael cam, fe'i hamddiffynnodd, a dialodd gam y dyn oedd dan orthrwm trwy daro'r Eifftiwr. Yr oedd yn tybio y byddai ei bobl ei hun yn deall fod Duw trwyddo ef yn rhoi gwaredigaeth iddynt. Ond nid oeddent yn deall. Trannoeth daeth ar draws dau ohonynt yn ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddweud, ‘Ddynion, brodyr ydych; pam y gwnewch gam â'ch gilydd?’ Ond dyma'r un oedd yn gwneud cam â'i gymydog yn ei wthio i ffwrdd, gan ddweud, ‘Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? A wyt ti am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr ddoe?’ A ffodd Moses ar y gair hwn, ac aeth yn alltud yn nhir Midian, lle y ganwyd iddo ddau fab. “Ymhen deugain mlynedd, fe ymddangosodd iddo yn anialwch Mynydd Sinai angel mewn fflam dân mewn perth. Pan welodd Moses ef, bu ryfedd ganddo'r olygfa. Wrth iddo nesu i edrych yn fanwl, daeth llais yr Arglwydd: ‘Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob.’ Cafodd Moses fraw, ac ni feiddiai edrych. Yna dywedodd yr Arglwydd wrtho, ‘Datod dy sandalau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r lle'r wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd. Gwelais, do, gwelais sut y mae fy mhobl sydd yn yr Aifft yn cael eu cam-drin, a chlywais eu griddfan, a deuthum i lawr i'w gwaredu. Yn awr tyrd, imi gael dy anfon di i'r Aifft.’ Y Moses hwn, y gŵr a wrthodasant gan ddweud, ‘Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr?’—hwnnw a anfonodd Duw yn llywodraethwr ac yn rhyddhawr, trwy law'r angel a ymddangosodd iddo yn y berth.

Actau 7:17-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft, Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff. Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient. Ar yr hwn amser y ganwyd Moses; ac efe oedd dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad. Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a’i cyfododd ef i fyny, ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun. A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd. A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel. A phan welodd efe un yn cael cam, efe a’i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro’r Eifftiwr. Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt-hwy ni ddeallasant. A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a’u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â’ch gilydd? Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog, a’i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe? A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion. Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth. A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd. Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynnais i’w gwared hwy. Ac yn awr tyred, mi a’th anfonaf di i’r Aifft. Y Moses yma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr, trwy law yr angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth.