Actau 7:1-60
Actau 7:1-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gofynnodd yr archoffeiriad: “Ai felly y mae?” Meddai yntau: “Frodyr a thadau, clywch. Ymddangosodd Duw'r gogoniant i'n tad ni, Abraham, ac yntau yn Mesopotamia cyn iddo ymsefydlu yn Haran, a dywedodd wrtho, ‘Dos allan o'th wlad ac oddi wrth dy berthnasau, a thyrd i'r wlad a ddangosaf iti.’ Yna fe aeth allan o wlad y Caldeaid, ac ymsefydlodd yn Haran. Oddi yno, wedi i'w dad farw, fe symudodd Duw ef i'r wlad hon, lle'r ydych chwi'n preswylio yn awr. Eto ni roes iddo etifeddiaeth ynddi, naddo, dim lled troed. Addo a wnaeth ei rhoi iddo ef i'w meddiannu, ac i'w ddisgynyddion ar ei ôl, ac yntau heb blentyn. Llefarodd Duw fel hyn: ‘Bydd ei ddisgynyddion yn alltudion mewn gwlad ddieithr, a chânt eu caethiwo a'u cam-drin am bedwar can mlynedd. Ac fe ddof fi â barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu,’ meddai Duw, ‘ac wedi hynny dônt allan, ac addolant fi yn y lle hwn.’ A rhoddodd iddo gyfamod enwaediad. Felly, wedi geni iddo Isaac, enwaedodd arno yr wythfed dydd. Ac i Isaac ganwyd Jacob, ac i Jacob y deuddeg patriarch.” “Cenfigennodd y patriarchiaid wrth Joseff a'i werthu i'r Aifft. Ond yr oedd Duw gydag ef, ac achubodd ef o'i holl gyfyngderau, a rhoddodd iddo ffafr a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft, a gosododd yntau ef yn llywodraethwr dros yr Aifft a thros ei holl dŷ. Daeth newyn ar yr Aifft i gyd ac ar Ganaan; yr oedd yn gyfyngder mawr, ac ni allai ein hynafiaid gael lluniaeth. Ond clywodd Jacob fod bwyd yn yr Aifft, ac anfonodd ein tadau yno y tro cyntaf. Yr ail dro fe adnabuwyd Joseff gan ei frodyr, a daeth tylwyth Joseff yn hysbys i Pharo. Anfonodd Joseff, a galw Jacob ei dad ato, a'i holl berthnasau, yn saith deg pump o bobl i gyd. Ac aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Bu farw ef a'n tadau, a symudwyd hwy yn ôl i Sichem, a'u claddu yn y bedd yr oedd Abraham wedi ei brynu am arian gan feibion Emor yn Sichem. “Fel yr oedd yr amser yn agosáu i gyflawni'r addewid yr oedd Duw wedi ei rhoi i Abraham, cynyddodd y bobl a lluosogi yn yr Aifft, nes i frenin gwahanol godi ar yr Aifft, un na wyddai ddim am Joseff. Bu hwn yn ddichellgar wrth ein cenedl ni, gan gam-drin ein hynafiaid, a pheri bwrw eu babanod allan fel na chedwid mohonynt yn fyw. Y pryd hwnnw y ganwyd Moses, ac yr oedd yn blentyn cymeradwy yng ngolwg Duw. Magwyd ef am dri mis yn nhŷ ei dad, a phan fwriwyd ef allan, cymerodd merch Pharo ef ati, a'i fagu yn fab iddi hi ei hun. Hyfforddwyd Moses yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, ac yr oedd yn nerthol yn ei eiriau a'i weithredoedd. “Yn ystod ei ddeugeinfed flwyddyn, cododd awydd arno i ymweld â'i gyd-genedl, plant Israel. Pan welodd un ohonynt yn cael cam, fe'i hamddiffynnodd, a dialodd gam y dyn oedd dan orthrwm trwy daro'r Eifftiwr. Yr oedd yn tybio y byddai ei bobl ei hun yn deall fod Duw trwyddo ef yn rhoi gwaredigaeth iddynt. Ond nid oeddent yn deall. Trannoeth daeth ar draws dau ohonynt yn ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddweud, ‘Ddynion, brodyr ydych; pam y gwnewch gam â'ch gilydd?’ Ond dyma'r un oedd yn gwneud cam â'i gymydog yn ei wthio i ffwrdd, gan ddweud, ‘Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? A wyt ti am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr ddoe?’ A ffodd Moses ar y gair hwn, ac aeth yn alltud yn nhir Midian, lle y ganwyd iddo ddau fab. “Ymhen deugain mlynedd, fe ymddangosodd iddo yn anialwch Mynydd Sinai angel mewn fflam dân mewn perth. Pan welodd Moses ef, bu ryfedd ganddo'r olygfa. Wrth iddo nesu i edrych yn fanwl, daeth llais yr Arglwydd: ‘Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob.’ Cafodd Moses fraw, ac ni feiddiai edrych. Yna dywedodd yr Arglwydd wrtho, ‘Datod dy sandalau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r lle'r wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd. Gwelais, do, gwelais sut y mae fy mhobl sydd yn yr Aifft yn cael eu cam-drin, a chlywais eu griddfan, a deuthum i lawr i'w gwaredu. Yn awr tyrd, imi gael dy anfon di i'r Aifft.’ Y Moses hwn, y gŵr a wrthodasant gan ddweud, ‘Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr?’—hwnnw a anfonodd Duw yn llywodraethwr ac yn rhyddhawr, trwy law'r angel a ymddangosodd iddo yn y berth. Hwn a'u harweiniodd hwy allan, gan wneud rhyfeddodau ac arwyddion yng ngwlad yr Aifft ac yn y Môr Coch, ac am ddeugain mlynedd yn yr anialwch. Hwn yw'r Moses a ddywedodd wrth blant Israel, ‘Bydd Duw yn codi i chwi o blith eich cyd-genedl broffwyd, fel y cododd fi.’ Hwn yw'r un a fu yn y gynulleidfa yn yr anialwch, gyda'r angel a lefarodd wrtho ar Fynydd Sinai a chyda'n hynafiaid ni. Derbyniodd ef oraclau byw i'w rhoi i chwi. Eithr ni fynnodd ein hynafiaid ymddarostwng iddo, ond ei wthio o'r ffordd a wnaethant, a throi'n ôl yn eu calonnau at yr Aifft, gan ddweud wrth Aaron, ‘Gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen; oherwydd y Moses yma, a ddaeth â ni allan o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddigwyddodd iddo.’ Gwnaethant lo y pryd hwnnw, ac offrymu aberth i'r eilun, ac ymlawenhau yng nghynnyrch eu dwylo eu hunain. A throes Duw ymaith, a'u rhoi i fyny i addoli sêr y nef, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi: “ ‘A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau am ddeugain mlynedd yn yr anialwch, dŷ Israel? Na yn wir, dyrchafasoch babell Moloch, a seren eich duw Raiffan, y delwau a wnaethoch i'w haddoli. Alltudiaf chwi y tu hwnt i Fabilon.’ “Yr oedd pabell y dystiolaeth gan ein hynafiaid yn yr anialwch, fel y gorchmynnodd yr hwn a lefarodd wrth Moses ei fod i'w llunio yn ôl y patrwm yr oedd wedi ei weld. Ac wedi ei derbyn yn eu tro, daeth ein hynafiaid â hi yma gyda Josua, wrth iddynt oresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o'u blaenau. Ac felly y bu hyd ddyddiau Dafydd. Cafodd ef ffafr gerbron Duw, a deisyfodd am gael tabernacl i dŷ Jacob. Eithr Solomon oedd yr un a adeiladodd dŷ iddo. Ond nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn tai o waith llaw; fel y mae'r proffwyd yn dweud: “ ‘Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa fath dŷ a adeiladwch imi, medd yr Arglwydd; ble fydd fy ngorffwysfa? Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?’ “Chwi rai gwargaled a dienwaededig o galon a chlust, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu'r Ysbryd Glân; fel eich hynafiaid, felly chwithau. P'run o'r proffwydi na fu'ch hynafiaid yn ei erlid? Ie, lladdasant y rhai a ragfynegodd ddyfodiad yr Un Cyfiawn. A chwithau yn awr, bradwyr a llofruddion fuoch iddo ef, chwi y rhai a dderbyniodd y Gyfraith yn ôl cyfarwyddyd angylion, ac eto ni chadwasoch mohoni.” Wrth glywed y pethau hyn aethant yn ffyrnig yn eu calonnau, ac ysgyrnygu eu dannedd arno. Yn llawn o'r Ysbryd Glân, syllodd Steffan tua'r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu'n sefyll ar ddeheulaw Duw, a dywedodd, “Edrychwch, rwy'n gweld y nefoedd yn agored, a Mab y Dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.” Rhoesant hwythau waedd uchel, a chau eu clustiau, a rhuthro'n unfryd arno, a'i fwrw allan o'r ddinas, a mynd ati i'w labyddio. Dododd y tystion eu dillad wrth draed dyn ifanc o'r enw Saul. Ac wrth iddynt ei labyddio, yr oedd Steffan yn galw, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.” Yna penliniodd, a gwaeddodd â llais uchel, “Arglwydd, paid â dal y pechod hwn yn eu herbyn.” Ac wedi dweud hynny, fe hunodd.
Actau 7:1-60 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gofynnodd yr archoffeiriad iddo, “Ydy’r cyhuddiadau yma’n wir?” A dyma oedd ateb Steffan: “Frodyr, ac arweinwyr parchus, gwrandwch arna i. Roedd y Duw gogoneddus wedi ymddangos i Abraham pan oedd e’n dal i fyw yn Mesopotamia – cyn iddo symud i Haran hyd yn oed. ‘Dw i am i ti adael dy wlad a’th bobl,’ meddai Duw wrtho, ‘a mynd i ble bydda i’n ei ddangos i ti.’ “Felly gadawodd wlad y Caldeaid, a setlo i lawr yn Haran. Wedyn, ar ôl i’w dad farw, dyma Duw yn ei arwain ymlaen i’r wlad yma dych chi’n byw ynddi nawr. Chafodd Abraham ei hun ddim tir yma – dim o gwbl! Ond roedd Duw wedi addo iddo y byddai’r wlad i gyd yn perthyn iddo fe a’i ddisgynyddion ryw ddydd – a hynny pan oedd gan Abraham ddim plentyn hyd yn oed! Dyma ddwedodd Duw: ‘Bydd rhaid i dy ddisgynyddion di fyw fel ffoaduriaid mewn gwlad arall. Byddan nhw’n gaethweision yno, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd. Ond bydda i’n cosbi’r genedl fydd wedi’u cam-drin nhw’ meddai Duw, ‘a chân nhw adael y wlad honno a dod i’m haddoli i yn y fan yma.’ Dyna pryd wnaeth Duw ddweud wrth Abraham mai defod enwaediad oedd i fod yn arwydd o’r ymrwymiad yma. Felly pan gafodd Abraham fab, sef Isaac, dyma fe’n enwaedu y plentyn yn wyth diwrnod oed. Yna Isaac oedd tad Jacob, a Jacob oedd tad y deuddeg patriarch roddodd eu henwau i ddeuddeg llwyth Israel. “Roedd y dynion hynny (meibion Jacob) yn genfigennus o’u brawd Joseff, dyma nhw’n ei werthu fel caethwas i’r Aifft. Ond roedd Duw gyda Joseff ac yn ei achub o bob creisis. Roedd Duw wedi gwneud Joseff yn ddyn doeth iawn. Daeth i ennill parch y Pharo, brenin yr Aifft, a dyma’r Pharo yn ei benodi yn llywodraethwr ar y wlad gyfan, a’i wneud yn gyfrifol am redeg y palas brenhinol. “Ond bryd hynny dyma newyn yn taro’r Aifft i gyd a gwlad Canaan. Roedd ein pobl ni’n dioddef yn ofnadwy am fod dim bwyd yn unman. Clywodd Jacob fod gwenith ar werth yn yr Aifft, ac anfonodd ei feibion (sef ein cyndeidiau ni) yno i brynu bwyd. Pan aethon nhw yno yr ail waith, dwedodd Joseff pwy oedd wrth ei frodyr. Dyna pryd ddaeth y Pharo i wybod am deulu Joseff. Felly dyma Joseff yn cael Jacob a’r teulu cyfan (saith deg pump o bobl i gyd) i fynd i lawr i’r Aifft. Yn yr Aifft y buodd Jacob farw – a’i feibion, ein cyndeidiau ni. Ond cafodd eu cyrff eu cario yn ôl i Sechem a’u claddu yn y tir oedd Abraham wedi’i brynu gan feibion Hamor. “Wrth i’r amser agosáu i Dduw wneud yr hyn oedd wedi’i addo i Abraham, roedd nifer ein pobl ni yn yr Aifft wedi tyfu’n fawr. Erbyn hynny, roedd brenin newydd yn yr Aifft – un oedd yn gwybod dim byd am Joseff . Buodd hwnnw’n gas iawn i’n pobl ni, a’u gorfodi nhw i adael i’w babis newydd eu geni farw. “Dyna pryd cafodd Moses ei eni. Doedd hwn ddim yn blentyn cyffredin! Roedd ei rieni wedi’i fagu o’r golwg yn eu cartref am dri mis. Ond pan gafodd ei adael allan, dyma ferch y Pharo yn dod o hyd iddo, ac yn ei gymryd a’i fagu fel petai’n blentyn iddi hi ei hun. Felly cafodd Moses yr addysg orau yn yr Aifft; roedd yn arweinydd galluog iawn, ac yn llwyddo beth bynnag roedd e’n wneud. “Pan oedd yn bedwar deg mlwydd oed, penderfynodd fynd i ymweld â’i bobl ei hun, sef pobl Israel. Dyna pryd y gwelodd un ohonyn nhw yn cael ei gam-drin gan ryw Eifftiwr. Ymyrrodd Moses i’w amddiffyn a lladd yr Eifftiwr. Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi’i anfon i’w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim. Y diwrnod wedyn gwelodd ddau o bobl Israel yn ymladd â’i gilydd. Ymyrrodd eto, a cheisio eu cael i gymodi. ‘Dych chi’n frodyr i’ch gilydd ffrindiau! Pam dych chi’n gwneud hyn?’ “Ond dyma’r dyn oedd ar fai yn gwthio Moses o’r ffordd ac yn dweud wrtho, ‘Pwy sydd wedi rhoi’r hawl i ti ein rheoli ni a’n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna ddoe?’ Clywed hynny wnaeth i Moses ddianc o’r wlad. Aeth i Midian. Er ei fod yn ddieithryn yno, setlodd i lawr a chafodd dau fab eu geni iddo. “Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr anialwch wrth ymyl Mynydd Sinai, dyma angel yn ymddangos i Moses yng nghanol fflamau perth oedd ar dân. Doedd ganddo ddim syniad beth oedd yn ei weld. Wrth gamu ymlaen i weld yn agosach, clywodd lais yr Arglwydd yn dweud, ‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’ Erbyn hyn roedd Moses yn crynu drwyddo gan ofn, a ddim yn meiddio edrych ar yr hyn oedd o’i flaen. Ond dyma’r Arglwydd yn dweud wrtho, ‘Tynna dy sandalau; rwyt ti’n sefyll ar dir cysegredig. Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i’n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi’u clywed nhw’n griddfan a dw i’n mynd i’w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i’n mynd i dy anfon di yn ôl i’r Aifft.’ “Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi’i wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi’r hawl i ti ein rheoli ni a’n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i’w harwain nhw a’u hachub nhw! Drwy wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gydag e, arweiniodd y bobl allan o’r Aifft, drwy’r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd. “Moses ddwedodd wrth bobl Israel, ‘Bydd Duw yn codi proffwyd arall fel fi o’ch plith chi.’ Roedd yn arwain y bobl pan oedden nhw gyda’i gilydd yn yr anialwch. Gyda Moses y siaradodd yr angel ar Fynydd Sinai. Derbyniodd neges fywiol i’w phasio ymlaen i ni. Ac eto gwrthododd ein hynafiaid wrando arno! Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i’r Aifft! Dyma nhw’n dweud wrth Aaron, ‘Gwna dduwiau i ni i’n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i’r Moses hwnnw wnaeth ein harwain ni allan o’r Aifft.’ Felly dyma nhw’n gwneud eilun ar ffurf llo, aberthu iddo a chynnal parti i anrhydeddu rhywbeth roedden nhw wedi’i lunio â’i dwylo eu hunain! Trodd Duw ei gefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen i addoli’r sêr a’r planedau yn yr awyr. Dyma’n union beth sydd wedi’i ysgrifennu yn llyfr y proffwydi: ‘Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, O bobl Israel? Na! Mae’n well gynnoch chi anrhydeddu allor Molech a Reffan, duw’r sêr, a’r eilunod wnaethoch chi i’w haddoli nhw. Felly dw i’n mynd i’ch anfon chi’n gaethion ymhell i ffwrdd i Babilon.’ “Roedd ‘pabell y dystiolaeth’ gyda’n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi’i ddangos i Moses. Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o’r wlad yma gan Dduw, dyma nhw’n mynd â’r babell gyda nhw. Ac roedd hi’n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd. “Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob. Ond Solomon oedd yr un wnaeth adeiladu’r deml. Ond wedyn, dydy’r Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi’u codi gan ddynion! Yn union fel mae’r proffwyd yn dweud: ‘Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a’r ddaear yn stôl i mi orffwys fy nhraed arni. Allech chi adeiladu teml fel yna i mi? meddai’r Arglwydd. Ble dych chi’n mynd i’w roi i mi i orffwys? Onid fi sydd wedi creu popeth sy’n bodoli?’ “Dych chi mor benstiff! Dych chi fel y paganiaid – yn ystyfnig a byddar! Dych chi’n union yr un fath â’ch hynafiaid – byth yn gwrando ar yr Ysbryd Glân! Fuodd yna unrhyw broffwyd gafodd mo’i erlid gan eich cyndeidiau? Nhw lofruddiodd hyd yn oed y rhai broffwydodd fod yr Un Cyfiawn yn dod – sef y Meseia. A dych chi nawr wedi’i fradychu a’i ladd e! Dych chi wedi gwrthod ufuddhau i Gyfraith Duw, a chithau wedi’i derbyn hi gan angylion!” Roedd yr hyn ddwedodd Steffan wedi gwneud yr arweinwyr Iddewig yn wyllt gandryll. Dyma nhw’n troi’n fygythiol, ond roedd Steffan yn llawn o’r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw, a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde. “Edrychwch!” meddai, “dw i’n gweld y nefoedd ar agor! Mae Mab y Dyn wedi’i anrhydeddu – mae’n sefyll ar ochr dde Duw.” Dyma nhw’n gwrthod gwrando ar ddim mwy, a chan weiddi nerth eu pennau dyma nhw’n rhuthro ymlaen i ymosod arno. Ar ôl ei lusgo allan o’r ddinas dyma nhw’n dechrau taflu cerrig ato i’w labyddio i farwolaeth. Roedd y rhai oedd wedi tystio yn ei erbyn wedi tynnu eu mentyll, a’u rhoi yng ngofal dyn ifanc o’r enw Saul. Wrth iddyn nhw daflu cerrig ato i’w ladd, roedd Steffan yn gweddïo, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd i.” Yna syrthiodd ar ei liniau a gweiddi’n uchel, “Arglwydd, paid dal nhw’n gyfrifol am y pechod yma.” Ac ar ôl dweud hynny, buodd farw.
Actau 7:1-60 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd yr archoffeiriad, A ydyw’r pethau hyn felly? Yntau a ddywedodd, Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch: Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran; Ac a ddywedodd wrtho, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyred i’r tir a ddangoswyf i ti. Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y preswyliodd yn Charran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, efe a’i symudodd ef i’r tir yma, yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon. Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed; ac efe a addawodd ei roddi iddo i’w feddiannu, ac i’w had ar ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo. A Duw a lefarodd fel hyn; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a’i caethiwant ef, ac a’i drygant, bedwar can mlynedd. Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farnaf fi, medd Duw: ac wedi hynny y deuant allan, ac a’m gwasanaethant i yn y lle hwn. Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch. A’r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i’r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef, Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ. Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a’n tadau ni chawsant luniaeth. Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf. A’r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo. Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a’i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain. Felly yr aeth Jacob i waered i’r Aifft, ac a fu farw, efe a’n tadau hefyd. A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem. A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft, Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff. Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient. Ar yr hwn amser y ganwyd Moses; ac efe oedd dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad. Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a’i cyfododd ef i fyny, ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun. A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd. A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel. A phan welodd efe un yn cael cam, efe a’i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro’r Eifftiwr. Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt-hwy ni ddeallasant. A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a’u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â’ch gilydd? Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog, a’i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe? A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion. Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth. A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd. Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynnais i’w gwared hwy. Ac yn awr tyred, mi a’th anfonaf di i’r Aifft. Y Moses yma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr, trwy law yr angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth. Hwn a’u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft, ac yn y môr coch, ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd. Hwn yw’r Moses a ddywedodd i feibion Israel, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi o’ch brodyr fel myfi: arno ef y gwrandewch. Hwn yw efe a fu yn yr eglwys yn y diffeithwch, gyda’r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina, ac â’n tadau ni; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i’w rhoddi i ni. Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i’r Aifft, Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i’n blaenori: oblegid y Moses yma, yr hwn a’n dug ni allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo. A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny, ac a offrymasant aberth i’r eilun, ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun. Yna y trodd Duw, ac a’u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu llu’r nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel? A chwi a gymerasoch babell Moloch, a seren eich duw Remffan, lluniau y rhai a wnaethoch i’w haddoli: minnau a’ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon. Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai. Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymryd, a’i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd; Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob. Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef. Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd, Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i’m gorffwysfa i? Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll? Chwi rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu’r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau. Pa un o’r proffwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i’r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion: Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion, ac nis cadwasoch. A phan glywsant hwy’r pethau hyn, hwy a ffromasant yn eu calonnau, ac a ysgyrnygasant ddannedd arno. Ac efe, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a edrychodd yn ddyfal tua’r nef; ac a welodd ogoniant Duw, a’r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw. Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw. Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno, Ac a’i bwriasant allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant: a’r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul. A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd. Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.