Actau 4:29-31
Actau 4:29-31 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly, Arglwydd, edrych arnyn nhw yn ein bygwth ni nawr. Rho’r gallu i dy weision i gyhoeddi dy neges di yn gwbl ddi-ofn. Dangos dy fod ti gyda ni drwy ddal ati i iacháu pobl, a rhoi awdurdod dy was sanctaidd Iesu i ni, i wneud gwyrthiau rhyfeddol.” Ar ôl iddyn nhw weddïo, dyma’r adeilad lle roedden nhw’n cyfarfod yn cael ei ysgwyd. Dyma nhw’n cael eu llenwi eto â’r Ysbryd Glân, ac roedden nhw’n cyhoeddi neges Duw yn gwbl ddi-ofn.
Actau 4:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i'th weision lefaru dy air â phob hyder, ac estyn dithau dy law i beri iachâd ac arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy Was sanctaidd, Iesu.” Ac wedi iddynt weddïo, ysgydwyd y lle yr oeddent wedi ymgynnull ynddo, a llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân, a llefarasant air Duw yn hy.
Actau 4:29-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniatâ i’th weision draethu dy air di gyda phob hyfder; Trwy estyn ohonot dy law i iacháu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu. Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll o’r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus.