Actau 4:23-31
Actau 4:23-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl at eu ffrindiau a dweud yr hanes i gyd, a beth oedd y prif offeiriaid a’r henuriaid wedi’i fygwth. Ar ôl clywed yr hanes, dyma nhw’n gweddïo gyda’i gilydd: “O Feistr Sofran,” medden nhw, “Ti sy’n rheoli’r cwbl, a thi ydy’r Un sydd wedi creu yr awyr a’r ddaear a’r môr a’r cwbl sydd ynddyn nhw. Ti ddwedodd drwy’r Ysbryd Glân yng ngeiriau dy was, y Brenin Dafydd: ‘Pam mae’r cenhedloedd mor gynddeiriog, a’r bobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio? Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad a’r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i wrthwynebu’r Arglwydd, ac i wrthwynebu ei Eneiniog.’ “Dyna ddigwyddodd yn y ddinas yma! Daeth Herod Antipas a Pontius Peilat, pobl o Israel ac o genhedloedd eraill at ei gilydd yn erbyn Iesu, dy was sanctaidd wnest ti ei eneinio. Ond dim ond gwneud beth roeddet ti wedi’i drefnu i ddigwydd oedden nhw! Felly, Arglwydd, edrych arnyn nhw yn ein bygwth ni nawr. Rho’r gallu i dy weision i gyhoeddi dy neges di yn gwbl ddi-ofn. Dangos dy fod ti gyda ni drwy ddal ati i iacháu pobl, a rhoi awdurdod dy was sanctaidd Iesu i ni, i wneud gwyrthiau rhyfeddol.” Ar ôl iddyn nhw weddïo, dyma’r adeilad lle roedden nhw’n cyfarfod yn cael ei ysgwyd. Dyma nhw’n cael eu llenwi eto â’r Ysbryd Glân, ac roedden nhw’n cyhoeddi neges Duw yn gwbl ddi-ofn.
Actau 4:23-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi eu gollwng, aethant at eu pobl eu hunain ac adrodd y cyfan yr oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei ddweud wrthynt. Wedi clywed, codasant hwythau eu llef yn unfryd at Dduw: “O Benllywydd, tydi a wnaeth y nef a'r ddaear a'r môr a phob peth sydd ynddynt, ac a ddywedodd drwy'r Ysbryd Glân yng ngenau Dafydd dy was, ein tad ni: “ ‘Pam y terfysgodd y Cenhedloedd ac y cynlluniodd y bobloedd bethau ofer? Safodd brenhinoedd y ddaear, ac ymgasglodd y llywodraethwyr ynghyd yn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Feseia ef.’ “Canys yn y ddinas hon yn wir ymgasglodd yn erbyn dy Was sanctaidd, Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Pontius Pilat ynghyd â'r Cenhedloedd a phobloedd Israel, i wneud yr holl bethau y rhagluniodd dy law a'th gyngor di iddynt ddod. Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i'th weision lefaru dy air â phob hyder, ac estyn dithau dy law i beri iachâd ac arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy Was sanctaidd, Iesu.” Ac wedi iddynt weddïo, ysgydwyd y lle yr oeddent wedi ymgynnull ynddo, a llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân, a llefarasant air Duw yn hy.
Actau 4:23-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwythau, wedi eu gollwng ymaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai’r archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt. Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw’r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a’r ddaear, a’r môr, ac oll sydd ynddynt; Yr hwn trwy’r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer? Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny, a’r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef. Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist ti, Herod a Phontius Peilat, gyda’r Cenhedloedd, a phobl Israel, I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a’th gyngor di eu gwneuthur. Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniatâ i’th weision draethu dy air di gyda phob hyfder; Trwy estyn ohonot dy law i iacháu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu. Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll o’r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus.