Actau 4:23-28
Actau 4:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi eu gollwng, aethant at eu pobl eu hunain ac adrodd y cyfan yr oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei ddweud wrthynt. Wedi clywed, codasant hwythau eu llef yn unfryd at Dduw: “O Benllywydd, tydi a wnaeth y nef a'r ddaear a'r môr a phob peth sydd ynddynt, ac a ddywedodd drwy'r Ysbryd Glân yng ngenau Dafydd dy was, ein tad ni: “ ‘Pam y terfysgodd y Cenhedloedd ac y cynlluniodd y bobloedd bethau ofer? Safodd brenhinoedd y ddaear, ac ymgasglodd y llywodraethwyr ynghyd yn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Feseia ef.’ “Canys yn y ddinas hon yn wir ymgasglodd yn erbyn dy Was sanctaidd, Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Pontius Pilat ynghyd â'r Cenhedloedd a phobloedd Israel, i wneud yr holl bethau y rhagluniodd dy law a'th gyngor di iddynt ddod.
Actau 4:23-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl at eu ffrindiau a dweud yr hanes i gyd, a beth oedd y prif offeiriaid a’r henuriaid wedi’i fygwth. Ar ôl clywed yr hanes, dyma nhw’n gweddïo gyda’i gilydd: “O Feistr Sofran,” medden nhw, “Ti sy’n rheoli’r cwbl, a thi ydy’r Un sydd wedi creu yr awyr a’r ddaear a’r môr a’r cwbl sydd ynddyn nhw. Ti ddwedodd drwy’r Ysbryd Glân yng ngeiriau dy was, y Brenin Dafydd: ‘Pam mae’r cenhedloedd mor gynddeiriog, a’r bobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio? Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad a’r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i wrthwynebu’r Arglwydd, ac i wrthwynebu ei Eneiniog.’ “Dyna ddigwyddodd yn y ddinas yma! Daeth Herod Antipas a Pontius Peilat, pobl o Israel ac o genhedloedd eraill at ei gilydd yn erbyn Iesu, dy was sanctaidd wnest ti ei eneinio. Ond dim ond gwneud beth roeddet ti wedi’i drefnu i ddigwydd oedden nhw!
Actau 4:23-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwythau, wedi eu gollwng ymaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai’r archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt. Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw’r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a’r ddaear, a’r môr, ac oll sydd ynddynt; Yr hwn trwy’r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer? Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny, a’r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef. Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist ti, Herod a Phontius Peilat, gyda’r Cenhedloedd, a phobl Israel, I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a’th gyngor di eu gwneuthur.