Actau 4:18-20
Actau 4:18-20 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dyma nhw yn eu galw i ymddangos o’u blaenau unwaith eto, a dweud wrthyn nhw am beidio siarad am Iesu na dysgu amdano byth eto. Ond dyma Pedr ac Ioan yn ateb, “Beth fyddai Duw am i ni ei wneud? Penderfynwch chi – gwrando arnoch chi, neu ufuddhau iddo fe? Allwn ni ddim stopio sôn am y pethau dŷn ni wedi’u gweld a’u clywed.”
Actau 4:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Galwasant hwy i mewn, a gorchymyn nad oeddent i siarad na dysgu o gwbl yn enw Iesu. Ond atebodd Pedr ac Ioan hwy: “A yw'n iawn yng ngolwg Duw wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw? Barnwch chwi. Ni allwn ni dewi â sôn am y pethau yr ydym wedi eu gweld a'u clywed.”
Actau 4:18-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a’u galwasant hwynt, ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddysgent yn enw yr Iesu. Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw gerbron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi. Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom.