Actau 27:33-38
Actau 27:33-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan oedd hi ar ddyddio, dechreuodd Paul annog pawb i gymryd bwyd, gan ddweud, “Heddiw yw'r pedwerydd dydd ar ddeg i chwi fod yn disgwyl yn bryderus, a heb gymryd tamaid o ddim i'w fwyta. Felly yr wyf yn eich annog i gymryd bwyd, oherwydd y mae eich gwaredigaeth yn dibynnu ar hynny; ni chollir blewyn oddi ar ben yr un ohonoch.” Wedi iddo ddweud hyn, cymerodd fara, a diolchodd i Dduw yng ngŵydd pawb, a'i dorri a dechrau bwyta. Cododd pawb eu calon, a hwythau hefyd yn cymryd bwyd. Rhwng pawb yr oedd dau gant saith deg a chwech ohonom yn y llong. Wedi iddynt gael digon o fwyd, dechreusant ysgafnhau'r llong trwy daflu'r ŷd allan i'r môr.
Actau 27:33-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Paul yn annog pawb i fwyta cyn iddi wawrio. “Dych chi wedi bod yn poeni a heb fwyta dim byd ers pythefnos. Dw i’n erfyn arnoch chi i gymryd rhywbeth – bydd ei angen arnoch i ddod drwy hyn. Ond gaiff neb niwed.” Cymerodd Paul dorth o fara, diolch i Dduw o’u blaenau nhw i gyd, ac yna ei thorri a dechrau bwyta. Roedd wedi codi calon pawb, a dyma ni i gyd yn cymryd bwyd. (Roedd 276 ohonon ni ar y llong i gyd.) Ar ôl cael digon i’w fwyta dyma’r criw yn mynd ati i ysgafnhau’r llong drwy daflu’r cargo o wenith i’r môr.
Actau 27:33-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim. Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys blewyn i’r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a’i torrodd, ac a ddechreuodd fwyta. Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol; a hwy a gymerasant luniaeth hefyd. Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain o eneidiau. Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw’r gwenith allan i’r môr.