Actau 27:16-25
Actau 27:16-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bu bron i ni golli cwch glanio’r llong pan oedden ni’n pasio heibio ynys fach Cawda. Ar ôl i’r dynion lwyddo i’w chodi ar fwrdd y llong, dyma nhw’n rhoi rhaffau o dan gorff y llong rhag iddi ddryllio ar farrau tywod Syrtis. Wedyn dyma nhw’n gollwng yr angor môr ac yn gadael i’r llong gael ei gyrru gan y gwynt. Roedd y llong wedi’i churo cymaint gan y storm nes iddyn nhw orfod dechrau taflu’r cargo i’r môr y diwrnod wedyn. A’r diwrnod ar ôl hynny dyma nhw hyd yn oed yn dechrau taflu tacl y llong i’r môr! Dyma’r storm yn para’n ffyrnig am ddyddiau lawer, a doedd dim sôn am haul na’r sêr. Erbyn hynny, roedd pawb yn meddwl ei bod hi ar ben arnon ni. Doedd neb ag awydd bwyta ers dyddiau lawer. Yna dyma Paul yn y diwedd yn sefyll o flaen pawb, ac meddai: “Dylech chi fod wedi gwrando arna i a pheidio hwylio o ynys Creta; byddech chi wedi arbed y golled yma i gyd wedyn. Ond codwch eich calonnau – does neb yn mynd i farw, er ein bod ni’n mynd i golli’r llong. Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr – sef y Duw biau fi; yr un dw i’n ei wasanaethu. A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae’n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw’n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’ Felly codwch eich calonnau! Dw i’n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i.
Actau 27:16-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi rhedeg dan gysgod rhyw ynys fechan a elwir Cawda, llwyddasom, trwy ymdrech, i gael y bad dan reolaeth. Codasant ef o'r dŵr, a mynd ati â chyfarpar i amwregysu'r llong; a chan fod arnynt ofn cael eu bwrw ar y Syrtis, tynasant y gêr hwylio i lawr, a mynd felly gyda'r lli. Trannoeth, gan ei bod hi'n dal yn storm enbyd arnom, dyma ddechrau taflu'r llwyth i'r môr; a'r trydydd dydd, lluchio gêr y llong i ffwrdd â'u dwylo eu hunain. Ond heb na haul na sêr i'w gweld am ddyddiau lawer, a'r storm fawr yn dal i'n llethu, yr oedd pob gobaith am gael ein hachub bellach yn diflannu. Yna, wedi iddynt fod heb fwyd am amser hir, cododd Paul yn eu canol hwy a dweud: “Ddynion, dylasech fod wedi gwrando arnaf fi, a pheidio â hwylio o Creta, ac arbed y difrod hwn a'r golled. Ond yn awr yr wyf yn eich cynghori i godi'ch calon; oherwydd ni bydd dim colli bywyd yn eich plith chwi, dim ond colli'r llong. Oherwydd neithiwr safodd yn fy ymyl angel y Duw a'm piau, yr hwn yr wyf yn ei addoli, a dweud, ‘Paid ag ofni, Paul; y mae'n rhaid i ti sefyll gerbron Cesar, a dyma Dduw o'i ras wedi rhoi i ti fywydau pawb o'r rhai sy'n morio gyda thi.’ Felly codwch eich calonnau, ddynion, oherwydd yr wyf yn credu Duw, mai felly y bydd, fel y dywedwyd wrthyf.
Actau 27:16-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi i ni redeg goris ynys fechan a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bad: Yr hwn a godasant i fyny, ac a wnaethant gynorthwyon, gan wregysu’r llong oddi dani: a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugndraeth, wedi gostwng yr hwyl, a ddygwyd felly. A ni’n flin iawn arnom gan y dymestl, drannoeth hwy a ysgafnhasant y llong; A’r trydydd dydd bwriasom â’n dwylo’n hunain daclau’r llong allan. A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan yn pwyso arnom, pob gobaith y byddem cadwedig a ddygwyd oddi arnom o hynny allan. Ac wedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a ddylasech wrando arnaf fi, a bod heb ymado o Creta, ac ennill y sarhad yma a’r golled. Ac yr awron yr wyf yn eich cynghori chwi i fod yn gysurus: canys ni bydd colled am einioes un ohonoch, ond am y llong yn unig. Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr hwn a’m piau, a’r hwn yr wyf yn ei addoli, Gan ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar: ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi. Am hynny, ha wŷr, cymerwch gysur: canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd, yn ôl y modd y dywedwyd i mi.