Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 26:1-29

Actau 26:1-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma’r Brenin Agripa’n dweud wrth Paul, “Rwyt ti’n rhydd i siarad.” Felly dyma Paul yn cyflwyno ei amddiffyniad: “Y Brenin Agripa, dw i’n cyfri’n hun yn ffodus iawn mai o’ch blaen chi dw i’n sefyll yma heddiw i amddiffyn fy hun. Dych chi’n gwbl gyfarwydd ag arferion yr Iddewon a’r pynciau llosg sy’n codi yn ein plith. Felly ga i ofyn i chi, os gwelwch yn dda, wrando ar beth sydd gen i i’w ddweud. “Mae’r arweinwyr Iddewig yn gwybod amdana i ers pan o’n i’n blentyn – y blynyddoedd cynnar yn Cilicia, a hefyd y cyfnod fues i yn Jerwsalem. Maen nhw’n gwybod ers talwm, petaen nhw’n fodlon cyfaddef hynny, fy mod i wedi byw fel Pharisead, sef sect fwyaf caeth ein crefydd ni. A dw i ar brawf yma heddiw am fy mod i’n edrych ymlaen at weld yr hyn wnaeth Duw ei addo i’n cyndeidiau ni yn dod yn wir. Mae pobl Israel i gyd yn rhannu’r un gobaith – dyna pam maen nhw’n addoli Duw mor gydwybodol ddydd a nos. A’r gobaith yma ydy’r rheswm pam mae’r arweinwyr Iddewig wedi dod â cyhuddiad yn fy erbyn i, eich mawrhydi. “Pam dych chi bobl yn ei chael hi mor anodd i gredu fod Duw yn gallu dod â’r meirw yn ôl yn fyw? Wrth gwrs, roeddwn innau ar un adeg yn meddwl fod rhaid i mi wneud popeth allwn i i wrthwynebu dilynwyr Iesu o Nasareth. A dyna wnes i: ces i awdurdod gan y prif offeiriaid yn Jerwsalem i daflu nifer fawr o Gristnogion i’r carchar. Rôn i’n un o’r rhai oedd o blaid rhoi’r gosb eithaf iddyn nhw! Rôn i’n mynd o un synagog i’r llall i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cosbi, ac yn ceisio’u gorfodi nhw i gablu. Roedd y peth yn obsesiwn gwyllt gen i, ac roeddwn i hyd yn oed yn teithio i wledydd tramor i’w herlid nhw. “Dyna’n union oeddwn i’n ei wneud ryw ddiwrnod – roedd y prif offeiriaid wedi rhoi’r awdurdod a’r cyfrifoldeb i mi fynd ar ôl y Cristnogion yn Damascus. Roedd hi tua chanol dydd pan oeddwn i ar fy ffordd yno. Yna’n sydyn, eich mawrhydi, dyma olau o’r awyr yn disgleirio o’m cwmpas i a phawb oedd gyda mi. Roedd yn olau llawer mwy tanbaid na’r haul. Dyma ni i gyd yn disgyn ar lawr, a chlywais lais yn siarad â mi yn Hebraeg, ‘Saul, Saul, pam wyt ti’n fy erlid i? Dim ond gwneud drwg i ti dy hun wyt ti wrth dynnu’n groes i mi.’ “A dyma fi’n gofyn, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dyma’r Arglwydd yn ateb, ‘Iesu ydw i, sef yr un rwyt ti’n ei erlid. Cod ar dy draed. Dw i wedi dy ddewis di i fod yn was i mi. Dw i am i ti ddweud wrth bobl am beth sydd wedi digwydd, ac am bopeth arall bydda i’n ei ddangos i ti. Bydda i’n dy achub di o afael dy bobl dy hun a phobl y cenhedloedd eraill. Dw i’n dy anfon di atyn nhw i agor eu llygaid nhw er mwyn iddyn nhw droi o dywyllwch i oleuni, a dianc o afael Satan at Dduw. Bydda i’n maddau eu pechodau nhw, a byddan nhw’n cael perthyn i’r bobl hynny sydd wedi’u gwneud yn lân drwy gredu ynof fi.’ “Felly, eich mawrhydi, dw i wedi ufuddhau i’r weledigaeth ges i o’r nefoedd. Dw i wedi bod yn dweud wrth bobl fod rhaid iddyn nhw droi cefn ar eu pechodau a throi at Dduw – a byw mewn ffordd sy’n dangos eu bod wedi newid go iawn. Gwnes i hynny gyntaf yn Damascus, ac wedyn yn Jerwsalem ac ar draws Jwdea, a hefyd i bobl o genhedloedd eraill. A dyna pam wnaeth yr Iddewon fy nal i yn y deml a cheisio fy lladd i. Ond mae Duw wedi edrych ar fy ôl i hyd heddiw, a dyna sut dw i’n dal yma i rannu’r neges gyda phawb, yn fach a mawr. Dw i’n dweud dim byd mwy na beth ddwedodd y proffwydi a Moses fyddai’n digwydd – sef y byddai’r Meseia yn dioddef, ac mai fe fyddai’r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw oddi wrth y meirw, yn oleuni i Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.” Yn sydyn dyma Ffestus yn gweiddi ac yn torri ar draws ei amddiffyniad, “Ti ddim yn gall, Paul! Mae dy holl ddysg yn dy yrru di’n wallgof!” “Na, dw i ddim yn wallgof, eich Anrhydedd Ffestus,” meddai Paul. “Mae’r cwbl dw i’n ei ddweud yn berffaith wir ac yn rhesymol. Mae’r Brenin Agripa yn deall y pethau yma, a dw i’n gallu siarad yn blaen gydag e. Dw i’n reit siŵr ei fod wedi clywed am hyn i gyd, achos wnaeth y cwbl ddim digwydd mewn rhyw gornel dywyll o’r golwg. Agripa, eich mawrhydi – ydych chi’n credu beth ddwedodd y proffwydi? Dw i’n gwybod eich bod chi!” Meddai Agripa wrth Paul, “Wyt ti’n meddwl y gelli di berswadio fi i droi’n Gristion mor sydyn â hynny?” Atebodd Paul, “Yn sydyn neu beidio – dw i’n gweddïo ar Dduw y gwnewch chi, a phawb arall sy’n gwrando arna i yma heddiw, ddod yr un fath â fi – ar wahân i’r cadwyni yma!”

Actau 26:1-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Meddai Agripa wrth Paul, “Y mae caniatâd iti siarad drosot dy hun.” Yna fe estynnodd Paul ei law, a dechrau ei amddiffyniad: “Yr wyf yn f'ystyried fy hun yn ffodus, y Brenin Agripa, mai ger dy fron di yr wyf i'm hamddiffyn fy hun heddiw ynglŷn â'r holl gyhuddiadau y mae'r Iddewon yn eu dwyn yn fy erbyn, yn enwedig gan dy fod yn hyddysg yn yr holl arferion a dadleuon a geir ymhlith yr Iddewon. Gan hynny, rwy'n erfyn arnat i wrando arnaf yn amyneddgar. Y mae fy muchedd i o'm mebyd, y modd y bûm yn byw o'r dechrau ymhlith fy nghenedl, a hefyd yn Jerwsalem, yn hysbys i bob Iddew. Y maent yn gwybod ers amser maith, os dymunant dystiolaethu, mai yn ôl sect fwyaf caeth ein crefydd y bûm i'n byw, yn Pharisead. Yn awr yr wyf yn sefyll fy mhrawf ar gyfrif gobaith sydd wedi ei seilio ar yr addewid a wnaed gan Dduw i'n hynafiaid ni, addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, trwy addoli'n selog nos a dydd, yn gobeithio ei sylweddoli; ac am y gobaith hwn yr wyf yn cael fy nghyhuddo, O frenin, gan Iddewon! Pam y bernir yn anghredadwy gennych chwi fod Duw yn codi'r meirw? Eto, yr oeddwn i fy hun yn tybio unwaith y dylwn weithio'n ddygn yn erbyn enw Iesu o Nasareth; a gwneuthum hynny yn Jerwsalem. Ar awdurdod y prif offeiriaid, caeais lawer o'r saint mewn carcharau, a phan fyddent yn cael eu lladd, rhoddais fy mhleidlais yn eu herbyn; a thrwy'r holl synagogau mi geisiais lawer gwaith, trwy gosb, eu gorfodi i gablu. Yr oeddwn yn enbyd o ffyrnig yn eu herbyn, ac yn eu herlid hyd ddinasoedd estron hyd yn oed. “Pan oeddwn yn teithio i Ddamascus ar y perwyl hwn gydag awdurdod a chennad y prif offeiriaid, gwelais ar y ffordd ganol dydd, O frenin, oleuni mwy llachar na'r haul yn llewyrchu o'r nef o'm hamgylch i a'r rhai oedd yn teithio gyda mi. Syrthiodd pob un ohonom ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf yn iaith yr Iddewon, ‘Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i? Y mae'n galed iti wingo yn erbyn y symbylau.’ Dywedais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd yr Arglwydd, ‘Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Ond cod a saf ar dy draed; oherwydd i hyn yr wyf wedi ymddangos i ti, sef i'th benodi di yn was imi, ac yn dyst o'r hyn yr wyt wedi ei weld, ac a weli eto, ohonof fi. Gwaredaf di oddi wrth y bobl hyn ac oddi wrth y Cenhedloedd yr wyf yn dy anfon atynt, i agor eu llygaid, a'u troi o dywyllwch i oleuni, o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn iddynt gael maddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd ynof fi.’ “O achos hyn, y Brenin Agripa, ni bûm anufudd i'r weledigaeth nefol, ond bûm yn cyhoeddi i drigolion Damascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thrwy holl wlad Jwdea, ac i'r Cenhedloedd, eu bod i edifarhau a throi at Dduw, a gweithredu yn deilwng o'u hedifeirwch. Oherwydd hyn y daliodd yr Iddewon fi yn y deml, a cheisio fy llofruddio. Ond mi gefais gymorth gan Dduw hyd heddiw, ac yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fawr a mân, heb ddweud dim ond y pethau y dywedodd y proffwydi, a Moses hefyd, eu bod i ddigwydd, sef bod yn rhaid i'r Meseia ddioddef, a'i fod ef, y cyntaf i atgyfodi oddi wrth y meirw, i gyhoeddi goleuni i bobl Israel ac i'r Cenhedloedd.” Ar ganol yr amddiffyniad hwn, dyma Ffestus yn gweiddi, “Yr wyt yn wallgof, Paul; y mae dy fawr ddysg yn dy yrru di'n wallgof.” Meddai Paul, “Na, nid wyf yn wallgof, ardderchocaf Ffestus; yn hytrach, geiriau gwirionedd a synnwyr yr wyf yn eu llefaru. Oherwydd fe ŵyr y brenin am y pethau hyn, ac yr wyf yn llefaru yn hy wrtho. Ni allaf gredu fod dim un o'r pethau hyn yn anhysbys iddo, oherwydd nid mewn rhyw gongl y gwnaed hyn. A wyt ti, y Brenin Agripa, yn credu'r proffwydi? Mi wn i dy fod yn credu.” Ac meddai Agripa wrth Paul, “Mewn byr amser yr wyt am fy mherswadio i fod yn Gristion!” Atebodd Paul, “Byr neu beidio, mi weddïwn i ar Dduw, nid am i ti yn unig, ond am i bawb sy'n fy ngwrando heddiw fod yr un fath ag yr wyf fi, ar wahân i'r rhwymau yma.”

Actau 26:1-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd drosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a’i hamddiffynnodd ei hun. Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agripa, gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon: Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â’r holl ddefodau a’r holion sydd ymhlith yr Iddewon: oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar. Fy muchedd i o’m mebyd, yr hon oedd o’r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem, a ŵyr yr Iddewon oll; Y rhai a’m hadwaenent i o’r dechrau, (os mynnant dystiolaethu,) mai yn ôl y sect fanylaf o’n crefydd ni y bûm i fyw yn Pharisead. Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i’n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i’m barnu: I’r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am yr hwn obaith yr achwynir arnaf, O frenin Agripa, gan yr Iddewon. Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw? Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun, fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth. Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerwsalem: a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn. Ac ym mhob synagog yn fynych mi a’u cosbais hwy, ac a’u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a’u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd. Ac yn hyn, a myfi yn myned i Ddamascus ag awdurdod a chennad oddi wrth yr archoffeiriaid, Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o’r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, a’r rhai oedd yn ymdaith gyda mi. Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn Hebraeg, Saul, Saul, paham yr ydwyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau. Ac mi a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod di yn weinidog ac yn dyst o’r pethau a welaist, ac o’r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt; Gan dy wared di oddi wrth y bobl, a’r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron, I agoryd eu llygaid, ac i’w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy’r ffydd sydd ynof fi. Am ba achos, O frenin Agripa, ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol: Eithr mi a bregethais i’r rhai yn Namascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thros holl wlad Jwdea, ac i’r Cenhedloedd; ar iddynt edifarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch. O achos y pethau hyn yr Iddewon a’m daliasant i yn y deml, ac a geisiasant fy lladd i â’u dwylo eu hun. Am hynny, wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolaethu i fychan a mawr, ac heb ddywedyd dim amgen nag a ddywedasai’r proffwydi a Moses y delent i ben; Y dioddefai Crist, ac y byddai efe yn gyntaf o atgyfodiad y meirw, ac y dangosai oleuni i’r bobl, ac i’r Cenhedloedd. Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu; llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd. Ac efe a ddywedodd, Nid wyf fi yn ynfydu, O ardderchocaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd. Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy: oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn. O frenin Agripa, A wyt ti yn credu i’r proffwydi? Mi a wn dy fod yn credu. Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i’m hennill i fod yn Gristion. A Phaul a ddywedodd, Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn unig, ond pawb hefyd a’r sydd yn fy ngwrando heddiw, yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn.