Actau 22:8-10
Actau 22:8-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Gofynnais, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ “‘Iesu o Nasareth ydw i,’ meddai’r llais, ‘sef yr un rwyt ti’n ei erlid.’ Roedd y rhai oedd gyda mi yn gweld y golau, ond ddim yn deall y llais oedd yn siarad â mi. “Gofynnais iddo, ‘Beth wna i, Arglwydd?’ A dyma’r Arglwydd yn ateb, ‘Cod ar dy draed, a dos i Damascus. Yno cei di wybod popeth rwyt ti i fod i’w wneud.’
Actau 22:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd wrthyf, ‘Iesu o Nasareth wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.’ Gwelodd y rhai oedd gyda mi y goleuni, ond ni chlywsant lais y sawl oedd yn llefaru wrthyf. A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ Dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt bopeth yr ordeiniwyd iti ei wneud.’
Actau 22:8-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf. Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a’r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur.