Actau 20:22-24
Actau 20:22-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac yn awr dyma fi, dan orfodaeth yr Ysbryd, ar fy ffordd i Jerwsalem, heb wybod beth a ddigwydd imi yno, ond bod yr Ysbryd Glân o dref i dref yn tystiolaethu imi fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros. Ond yr wyf yn cyfrif nad yw fy mywyd o unrhyw werth imi, dim ond imi allu cwblhau fy ngyrfa, a'r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu i Efengyl gras Duw.
Actau 20:22-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“A nawr dw i’n mynd i Jerwsalem. Mae’r Ysbryd wedi dweud fod rhaid i mi fynd, er nad ydw i’n gwybod beth fydd yn digwydd i mi ar ôl i mi gyrraedd yno. Yr unig beth dw i’n wybod ydy mod i’n mynd i gael fy arestio a bod pethau’n mynd i fod yn galed – mae’r Ysbryd Glân wedi gwneud hynny’n ddigon clir dro ar ôl tro mewn gwahanol leoedd. Sdim ots! Cyn belled â’m bod i’n gorffen y ras! Dydy mywyd i’n dda i ddim oni bai mod i’n gwneud y gwaith mae’r Arglwydd Iesu wedi’i roi i mi – sef dweud y newyddion da am gariad a haelioni Duw wrth bobl.
Actau 20:22-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem, heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno: Eithr bod yr Ysbryd Glân yn tystio i mi ym mhob dinas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros. Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun, os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd, a’r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw.