Actau 2:5-11
Actau 2:5-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem. Clywon nhw’r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am fod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad. Roedd y peth yn syfrdanol! “Onid o Galilea mae’r bobl yma’n dod?” medden nhw. “Sut maen nhw’n gallu siarad ein hieithoedd ni?” (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a’r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain – rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig – a hefyd Cretiaid ac Arabiaid) “Maen nhw’n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi’u gwneud!”
Actau 2:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd yn preswylio yn Jerwsalem Iddewon, pobl dduwiol o bob cenedl dan y nef; ac wrth glywed y sŵn hwn fe ymgasglodd tyrfa ohonynt, ac yr oeddent wedi drysu'n lân am fod pob un ohonynt yn eu clywed hwy yn siarad yn ei iaith ei hun. Yr oeddent yn synnu ac yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Onid Galileaid yw'r rhain oll sy'n llefaru? A sut yr ydym ni yn eu clywed bob un ohonom yn ei iaith ei hun, iaith ei fam? Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, Phrygia a Pamffylia, yr Aifft a pharthau Libya tua Cyrene, a'r ymwelwyr o Rufain, yn Iddewon a phroselytiaid, Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed hwy yn llefaru yn ein hieithoedd ni am fawrion weithredoedd Duw.”
Actau 2:5-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef. Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru? A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y’n ganed ni? Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid, Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw.