Actau 2:14-28
Actau 2:14-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Safodd Pedr ynghyd â'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: “Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau. Nid yw'r rhain wedi meddwi, fel yr ydych chwi'n tybio, oherwydd dim ond naw o'r gloch y bore yw hi. Eithr dyma'r hyn a ddywedwyd drwy'r proffwyd Joel: “ ‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw: tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb; a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo; bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau, a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion; hyd yn oed ar fy nghaethweision a'm caethforynion, yn y dyddiau hynny, fe dywalltaf o'm Hysbryd, ac fe broffwydant. A rhof ryfeddodau yn y nef uchod ac arwyddion ar y ddaear isod, gwaed a thân a tharth mwg; troir yr haul yn dywyllwch, a'r lleuad yn waed, cyn i ddydd mawr a disglair yr Arglwydd ddod; a bydd pob un sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael ei achub.’ “Bobl Israel, clywch hyn: sôn yr wyf am Iesu o Nasareth, gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain. Yr oedd hwn wedi ei draddodi trwy fwriad penodedig a rhagwybodaeth Duw, ac fe groeshoeliasoch chwi ef drwy law estroniaid, a'i ladd. Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael. Oherwydd y mae Dafydd yn dweud amdano: “ ‘Yr oeddwn yn gweld yr Arglwydd o'm blaen yn wastad, canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgydwer. Am hynny llawenychodd fy nghalon a gorfoleddodd fy nhafod, ie, a bydd fy nghnawd hefyd yn preswylio mewn gobaith; oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid yn Hades, nac yn gadael i'th Sanct weld llygredigaeth. Hysbysaist imi ffyrdd bywyd; byddi'n fy llenwi â llawenydd yn dy bresenoldeb.’
Actau 2:14-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a’r un ar ddeg arall wrth ei ymyl: “Arweinwyr, bobl Jwdea, a phawb arall sy’n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus – gwna i esbonio i chi beth sy’n digwydd. Dydy’r bobl yma ddim wedi meddwi fel mae rhai ohonoch chi’n dweud. Mae’n rhy gynnar i hynny! Naw o’r gloch y bore ydy hi! “Na, beth sy’n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano: ‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf Bydda i’n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo, bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, a phobl hŷn yn cael breuddwydion. Bryd hynny bydda i’n tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, yn ddynion a merched, a byddan nhw’n proffwydo. Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear – gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman. Bydd yr haul yn troi’n dywyll a’r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed cyn i’r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod, sef, Dydd yr Arglwydd. Bydd pawb sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael eu hachub.’ “Bobl Israel, gwrandwch beth dw i’n ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth – dych chi’n gwybod hynny’n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol drwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e. Roedd Duw’n gwybod ac wedi trefnu ymlaen llaw beth fyddai’n digwydd iddo. Gyda help y Rhufeiniaid annuwiol dyma chi’n ei ladd, drwy ei hoelio a’i hongian ar groes. Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a’i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo! Dyna’n union ddwedodd y Brenin Dafydd: ‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser. Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i fydd dim yn fy ysgwyd i. Felly mae nghalon i’n llawen a’m tafod yn gorfoleddu; mae fy nghorff yn byw mewn gobaith, am na fyddi di’n fy ngadael i gyda’r meirw, gadael i’r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd. Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd.’
Actau 2:14-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau: Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi. Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel; A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd: a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant, a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion: Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant: A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg. Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod. A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig. Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau: Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch: Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo. Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger. Am hynny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a’m cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith: Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd: ti a’m cyflawni o lawenydd â’th wynepryd.