Actau 19:13-16
Actau 19:13-16 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Roedd grŵp o Iddewon hefyd yn mynd o gwmpas yn bwrw ysbrydion drwg allan o bobl, a dyma nhw’n ceisio defnyddio enw’r Arglwydd Iesu i ddelio gyda phobl oedd yng ngafael cythreuliaid. “Yn enw’r Iesu mae Paul yn pregethu amdano, dw i’n gorchymyn i ti ddod allan!” medden nhw. (Meibion Scefa, archoffeiriad Iddewig, oedden nhw – ac roedd saith ohonyn nhw.) Dyma’r ysbryd drwg yn ateb, “Dw i’n nabod Iesu, ac yn gwybod am Paul, ond pwy dych chi?” A dyma’r dyn oedd a’r ysbryd drwg ynddo yn ymosod arnyn nhw a rhoi’r fath gweir iddyn nhw i gyd nes iddyn nhw redeg allan o’r tŷ yn noeth ac yn gwaedu.
Actau 19:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dyma rai o'r Iddewon a fyddai'n mynd o amgylch gan fwrw allan gythreuliaid, hwythau'n ceisio enwi enw'r Arglwydd Iesu uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ganddynt, gan ddweud, “Yr wyf yn eich siarsio chwi yn enw Iesu, yr un y mae Paul yn ei bregethu.” Ac yr oedd gan ryw Scefa, prif offeiriad Iddewig, saith mab oedd yn gwneud hyn. Ond atebodd yr ysbryd drwg hwy, “Iesu, yr wyf yn ei adnabod ef; a Paul, gwn amdano yntau; ond chwi, pwy ydych?” Dyma'r dyn ac ynddo'r ysbryd drwg yn llamu arnynt, ac yn eu trechu i gyd, a'u maeddu nes iddynt ffoi o'r tŷ yn noeth a chlwyfedig.
Actau 19:13-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna rhai o’r Iddewon crwydraidd, y rhai oedd gonsurwyr, a gymerasant arnynt enwi uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynddynt, enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bregethu. Ac yr oedd rhyw saith o feibion i Scefa, Iddew ac archoffeiriad, y rhai oedd yn gwneuthur hyn. A’r ysbryd drwg a atebodd ac a ddywedodd, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen; eithr pwy ydych chwi? A’r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo, a ruthrodd arnynt, ac a’u gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn; hyd oni ffoesant hwy allan o’r tŷ hwnnw, yn noethion ac yn archolledig.