Actau 17:30-31
Actau 17:30-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn wir, edrychodd Duw heibio i amserau anwybodaeth; ond yn awr y mae'n gorchymyn i bawb ym mhob man edifarhau, oblegid gosododd ddiwrnod pryd y bydd yn barnu'r byd mewn cyfiawnder, trwy ŵr a benododd, ac fe roes sicrwydd o hyn i bawb trwy ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw.”
Actau 17:30-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ydy, mae Duw wedi diystyru’r fath ddwli yn y gorffennol, ond bellach mae’n galw ar bobl ym mhobman i droi ato. Mae e wedi dewis diwrnod pan fydd y byd i gyd yn cael ei farnu. Bydd y farn yna’n gwbl deg. Mae wedi dewis dyn i wneud y barnu, ac mae wedi dangos yn glir ei fod yn mynd i wneud hyn drwy ddod â’r dyn hwnnw yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.”
Actau 17:30-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau: Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.